2. Buddsoddi mewn dyfodol llewyrchus, buddsoddi mewn addysg
3. Cartrefi ar gyfer ein dyfodol
4. Dyfodol croesawgar a chynhwysol
Rhagair: Myfyrwyr ydym ni
Mae ein mudiad wedi brwydro i amddiffyn myfyrwyr rhag y gwaethaf o'r argyfwng costau byw. Nawr mae'n bryd gweithio tuag at ddyfodol gwell.
Nid oes y fath beth â myfyriwr nodweddiadol. Rydyn ni o bob oed, diwylliant, ffydd a chefndir. Mae rhai ohonom yn cael ein hyfforddi ar gyfer swydd benodol ac mae rhai ohonom yn dysgu heb unrhyw yrfa mewn golwg eto. Mae rhai ohonom yn gadael cartref i astudio, rhai ohonom yn cymudo, ac mae rhai ohonom yn astudio ar-lein. Mae rhai ohonom wedi llwyddo cynilo’r arian i ailhyfforddi oherwydd bod ein diwydiannau’n newid mor gyflym.
Y gwir amdani yw ein bod ni i gyd yn fyfyrwyr ar ryw adeg neu'i gilydd yn ein bywydau.
Mae bod yn fyfyriwr yn golygu buddsoddi yn ein dyfodol ein hunain a dyfodol ein cymdeithas.
Ymhen ychydig flynyddoedd, byddwn yn athrawon, nyrsys, trydanwyr, peilotiaid, meddygon, milfeddygon, deintyddion, gofalwyr, actorion, cerddorion, artistiaid, peirianwyr, gwyddonwyr, therapyddion, dadansoddwyr ac arbenigwyr data.
Felly, mae’r hyn sy’n digwydd ym myd addysg heddiw yn mynd i lywio ein heconomi a’n cymdeithas yn y dyfodol.
Ond pa fath o ddyfodol sydd o’n blaenau?
A bod yn onest, mae'r dyfodol yn edrych yn eithaf llwm. Mae yna argyfwng costau byw, argyfwng yn y GIG, argyfwng iechyd meddwl, argyfwng tai ac argyfwng hinsawdd. Ni yw Cenhedlaeth Argyfwng.
Er mwyn newid y dyfodol, mae'n rhaid i ni weithredu nawr. Mae arnom angen gweledigaeth newydd ar gyfer ein dyfodol sy'n tarfu ar y cylch argyfwng ac yn blaenoriaethu ansawdd bywyd ac amddiffyn ein planed.
Fel y lefel isaf sy’n dderbyniol, mae angen llywodraeth arnom sy'n barod i liniaru effeithiau'r cylch argyfwng ar fywydau pobl heddiw.
Ond yr unig beth sy’n haeddu ein pleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yw gweledigaeth ar gyfer dyfodol teilwng i bobl a’r blaned gyda chynllun credadwy i’w gwireddu. Felly, dyma’r hyn a ddwedwn wrth wleidyddion a phleidiau sy’n ceisio ein pleidleisiau.....
Dyma ein dyfodol. Rydyn ni yma ar ei gyfer. Ydych chi?
Y Daith i'r Maniffesto ar gyfer ein Dyfodol
Mae’r Maniffesto ar gyfer ein Dyfodol yn cynrychioli dyheadau myfyrwyr ar draws y DU.
Mae'r syniadau hyn yn seiliedig ar ymgynghori â thros 10,000 o fyfyrwyr. Mae casglu barn yn rheolaidd wedi rhoi darlun clir i ni o'r materion mwyaf sy’n effeithio ar fyfyrwyr heddiw. Mae cynhadledd ddemocrataidd flynyddol UCM DU, un o’r digwyddiadau mwyaf yn Ewrop ar gyfer myfyrwyr etholedig, yn rhoi’r cyfle i ni ddod at ein gilydd a thrafod y byd yr ydym am ei weld. Mae deilliannau a’r syniadau a ddaeth o sawl cynhadledd UCM dros y blynyddoedd wedi'u profi a'u ffurfio trwy ymgynghori pellach i lunio sail y Maniffesto hwn.
Yn benodol ar gyfer y Maniffesto, lansiwyd 'Beth Mae Myfyrwyr yn ei Feddwl': llwyfan pleidleisio rhyngweithiol a ofynnodd i fyfyrwyr restru eu blaenoriaethau ar gyfer yr etholiad. Cawsom arwydd clir gan 7,459 o fyfyrwyr ynghylch eu blaenoriaethau, gan roi cyfanswm o 97,472 o atebion i ni.
Cynhaliwyd Uwchgynhadledd Maniffesto ym mis Rhagfyr 2023, gan ddod â 50 o swyddogion myfyrwyr a phrentisiaid o bob rhan o’r DU at ei gilydd i drafod yr hyn y mae’r data o ‘Beth mae Myfyrwyr yn ei Feddwl’ yn ei ddangos i ni, i drafod syniadau ar gyfer y Maniffesto, ac i osod ein blaenoriaethau.
Gyda’i gilydd, mae’r Maniffesto hwn yn waith cannoedd o filoedd o fyfyrwyr ledled y DU. Efallai y caiff ein syniadau eu cyflwyno’n wahanol, ac mae ein haddysg yn gweithio’n wahanol ar draws y DU: ond mae’r argyfyngau byd-eang sy’n ein hwynebu yn aros yr un fath.
Rydym am gydnabod yn arbennig y 450 o undebau myfyrwyr sy’n aelodau UCM, yn cynrychioli 4.5m o fyfyrwyr, y 10,000 o fyfyrwyr sydd wedi cyfrannu at ein hymchwil, yr undebau myfyrwyr a myfyrwyr a gynhaliodd grwpiau ffocws, a chydweithwyr yn y sector a brofodd dilysrwydd y syniadau.
Mae’r Maniffesto hwn yn perthyn i bob myfyriwr sydd erioed wedi bod yn ddigon dewr i sefyll etholiad, i godi eu llaw a dadlau bod angen i rywbeth newid, i dorchi eu llewys yn eu clybiau a’u cymdeithasau, yn eu hundebau a’u dosbarthiadau a gwneud rhywbeth er gwell.
Dyna ein dyfodol.
Mae'r amgylchedd gwleidyddol a'r byd o'n cwmpas yn symud yn gyflym. Byddwn yn cadw Maniffesto byw a'r syniadau diweddaraf gan fyfyrwyr, data, gwybodaeth am bleidleisio a modelau polisi ar www.whatstudentsthink.org.uk.
CRYNODEB GWEITHREDOL
Ein gweledigaeth yw dyfodol lle gall pobl ffynnu, nid dim ond goroesi. Credwn fod angen newid radical, beiddgar.
Ond gwyddom nad yw hynny'n hawdd: mae ein Maniffesto yn dod â realaeth bragmataidd ac awgrymiadau diriaethol at ei gilydd a all wneud gwahaniaeth pendant i fywydau myfyrwyr yn ystod 100 diwrnod cyntaf llywodraeth newydd, gyda'r gobaith a’r weledigaeth sydd eu hangen arnom ni i gyd ar gyfer y dyfodol.
1. Yn y 100 diwrnod cyntaf, torri'r cylch argyfwng myfyrwyr
Mae myfyrwyr yn ei chael yn anodd fforddio pethau sylfaenol bywyd fel bwyd, rhent a theithio. Mae 94% o fyfyrwyr yn torri'n ôl ar bethau angenrheidiol. Mae ein hastudiaethau a'n hiechyd yn dioddef. Mae angen gweithredu ar frys.
Ar hyn o bryd, mae angen pecyn argyfwng costau-byw ar fyfyrwyr, gan gynnwys:
- Cynyddu ac ôl-ddyddio benthyciadau cynhaliaeth yn unol â chwyddiant
- Cyflog Byw i brentisiaid, Cyflog Byw i fyfyrwyr ôl-raddedig
- Ymestyn Credyd Cynhwysol i fyfyrwyr a dysgwyr mewn AB
- Capio rhenti yn unol ag incwm myfyrwyr a mwy o lety fforddiadwy
- Dileu rhestrau aros ar gyfer gofal iechyd meddwl, a dim amharu ar lwybrau gofal iechyd pan fydd myfyrwyr yn symud tŷ
- Rhoi mwy o bwerau i feddygon teulu a nyrsys sy'n cynnig presgripsiwn ar gyfer gofal iechyd sy'n cadarnhau rhywedd
2. Buddsoddi mewn dyfodol llewyrchus, buddsoddi mewn addysg
Addysg yw’r unig beth a fydd yn ein paratoi ar gyfer datrys heriau mawr y dyfodol. Ond mae'r model ariannu ar dorri. Dim mwy o bapuro dros graciau: mae angen cyllid a diwygio’r cwricwlwm arnom.
Model ariannu teg, fforddiadwy lle mae addysg ôl-16 am ddim pan gaiff ei chyrchu
- Diwygio addysg a chyllido cynhaliaeth yn sylweddol, fel bod addysg am ddim pan gaiff ei chyrchu, ac wedi'i hariannu'n deg, yn gyhoeddus ac yn sefydlog
- Hawl Dysgu Gydol Oes sy'n ariannu cyrsiau a chymwysterau trwy gydol bywyd unigolion
- Ariannu bywyd campws: cymorthdal ar gyfer bwyd, teithio, cyfarpar a deunyddiau mewn prifysgolion a cholegau
Buddsoddi mewn sgiliau’r dyfodol a myfyrwyr fel dinasyddion
- Tasglu Trawsnewid Sgiliau i arwain ar y cwricwlwm sgiliau sydd ei angen arnom i ddatrys argyfyngau ein cenhedlaeth
- Cyllid ar gyfer swyddi gwyrdd, ailhyfforddi ac ailsgilio
- Hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau o ansawdd uchel, gyda threfniadau rhyddhau-o’r-gweithle am ddiwrnod o ansawdd uchel a chymwysterau eang
- Rhoi gwerth ar addysg dinasyddiaeth, ac ariannu darparwyr addysg bellach i gefnogi undebau myfyrwyr ym mhob coleg
- Gostwng yr oedran pleidleisio i 16, a chofrestru myfyrwyr yn awtomatig i gofrestru i bleidleisio
3. Cartrefi ar gyfer ein dyfodol
Mae gennym ni 50c yr wythnos yn weddill ar ôl talu ein rhent. Mae’r cynnydd mewn gwerth eiddo’n niweidio pawb heblaw'r benthycwyr. A dyma'r ffactor unigol mwyaf yn yr argyfwng costau byw.
Ei gwneud yn syml i bob myfyriwr gael gafael at lety o ansawdd uchel
- Dileu'r angen am warantwyr rhent
- Ymrwymo i lety fforddiadwy a rheoli rhenti
- Rhoi amddiffyniad cyfartal i fyfyrwyr a rhentwyr
Adeiladu mwy o dai gwyrdd, fforddiadwy a chymdeithasol i bawb – gan gynnwys myfyrwyr
- Rheoleiddio refeniw landlordiaid preifat sy’n rhentu i fyfyrwyr a threthu ail gartrefi: ail-fuddsoddi’r arian hwn mewn adeiladu tai myfyrwyr a thai cymdeithasol gwyrdd a fforddiadwy, a hynny ar raddfa eang
- Rheoleiddio ac ôl-osod: cyflwyno safonau gofynnol cryf ar inswleiddio
4. Dyfodol croesawgar a chynhwysol
Mae'r 'amgylchedd gelyniaethus' a'r 'rhyfeloedd diwylliant' wedi rhannu ein cymdeithas, wedi hybu casineb, ac wedi cynyddu hiliaeth. Ar ben hynny, mae'n costio i'n heconomi pan na allwn lenwi swyddi hanfodol a phan na all myfyrwyr rhyngwladol fyw, gweithio ac astudio yma.
Bod yn lle anhygoel i fyfyrwyr rhyngwladol weithio ac astudio
- Dileu Gordal y GIG a'r cap ar oriau gwaith ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol; symleiddio llwybr graddedigion a gostwng trothwyon cyflog i gyflogwyr
- Datganoli pŵer i lywodraethau ar draws pedair gwlad y DU i osod eu rheolau eu hunain ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol
- Meithrin perthnasoedd â gwledydd eraill i sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn gallu cael mynediad at gyllid caledi, ac ailymuno ag Erasmus+
Campysau diogel a rhydd
- Diddymu cyfreithiau ffug, 'rhyfeloedd diwylliant' a diogelu'r Ddeddf Hawliau Dynol
- Creu asiantaeth ryng-ffydd i weithio ar berthnasoedd cymunedol a chydlyniant campws, sy'n eiddo ar y cyd ag undebau myfyrwyr
- Gwneud campysau'n ddiogel a hygyrch: ôl-osod adeiladau, sefydlu safonau cenedlaethol ar fynd i'r afael â thrais rhywiol, diwygio Lwfans Myfyrwyr Anabl a Thaliadau Annibyniaeth Bersonol
5. Dyfodol iach
Dim ond symptomau o’n cenhedlaeth ni’n cael ei thalu’n wael, o dan straen, a’r gormes sy’n ein hwynebu yw’r argyfwng iechyd meddwl a’r argyfwng yn y GIG Mae angen i ni fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd meddwl ar unwaith, ynghyd â’r materion sylfaenol sy’n ein gwneud yn sâl.
Gwneud y DU yn archbwer iechyd
- Cyllido myfyrwyr, gweithwyr y GIG, ymchwil, a chyfleusterau fel y gallwn arwain y byd mewn addysg ac ymchwil iechyd
- Ymestyn gofal iechyd sy'n gysylltiedig â thrawsnewid heb deimlo bod angen ymddiheuriad
Chwyldro mewn ymateb ac atal gofal iechyd meddwl
- Mynd i'r afael ag achosion salwch meddwl gan gynnwys dileu tlodi myfyrwyr
- Cynyddu capasiti yng ngwasanaethau'r GIG, buddsoddi mewn proffesiynwyr gofal iechyd, a datblygiad parhaus
- Cynnal chwyldro mewn gofal ataliol a lleihau niwed, ariannu sefydliadau cymunedol i fynd i'r afael ag unigrwydd a mynd i'r afael ag achosion afiechyd meddwl, e.e. tlodi a straen