Y presennol a’r dyfodol
Mae'r 'amgylchedd gelyniaethus' a'r 'rhyfeloedd diwylliant' wedi cynyddu hiliaeth, gwrth-semitiaeth, ac islamoffobia ac maent yn staen cywilyddus ar hanes y DU.
- Roedd chymhelliant hiliol wrth wraidd 70% o droseddau casineb yn y DU yn 2022-23
- Mae 1 o bob 3 myfyriwr rhyngwladol yn gorfod gweithio tra byddant yn astudio
- Mae 64% o'r cyhoedd yn y DU yn credu y dylai'r DU groesawu cymaint neu fwy o fyfyrwyr rhyngwladol
Mae myfyrwyr sy'n dod i'r DU i astudio ac adeiladu eu bywydau yn wynebu rhwystrau cyfreithiol ac ariannol enfawr, heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus, amgylchedd gelyniaethus, a hyd yn oed aflonyddu sy’n cael ei oddef gan y wladwriaeth.
O alw enwau a sbeicio diodydd, i aflonyddu hiliol, i drawsffobia ar ein sgriniau ac yn ein papurau, i ystafelloedd dosbarth na allwn fynd i mewn iddynt oherwydd nad ydynt yn gorfforol hygyrch: mae cymdeithas ar hyn o bryd yn rhanedig ac yn amharod i’n derbyn: ac rydym yn teimlo'r effeithiau.
Mae addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth feithrin dealltwriaeth a phartneriaeth fyd-eang. Mae dyfodol ein heconomi, ein diogelwch a’n hinsawdd yn dibynnu ar ein perthynas â phob gwlad arall ar y ddaear.
Presennol a dyfodol amgen
Gallai'r DU fod yn lle anhygoel i fod yn fyfyriwr.
Gallem chwalu pob rhwystr i astudio, byw a gweithio yn y DU. Rydym yn falch o astudio yma, ac rydym am i bob myfyriwr gael y profiad gorau posibl.
Gallem gydweithredu i ddatrys yr argyfyngau byd-eang yr ydym yn eu hwynebu yn y tymor hir ac adeiladu byd a chymdeithas well i bawb.
Gartref, fe allem ni i gyd weithio i greu campysau croesawgar a chymdeithas sydd ddim yn rhanedig, ond yn hytrach ble mae hawliau pawb yn cael eu parchu ac rydyn ni i gyd yn byw yn rhydd ac yn ddiogel.
Ledled y byd, gallai llywodraeth y DU fynd ati i feithrin cytundebau addysg cydfuddiannol â gwledydd eraill, lle caiff rhaglenni cyfnewid eu hariannu, a lle rydym yn croesawu myfyrwyr rhyngwladol sy’n dewis rhannu eu sgiliau, eu gwybodaeth, a’u diwylliant yma yn y DU. Gallent ddatganoli pwerau ar fyfyrwyr rhyngwladol a chyfnewid rhyngwladol ar draws llywodraethau’r DU.
Syniadau polisi
Bod yn lle anhygoel i fyfyrwyr rhyngwladol weithio ac astudio
Meithrin perthnasoedd dwyochrog â gwledydd eraill i sicrhau bod myfyrwyr rhyngwladol yn gallu cael mynediad at gymorth ariannol fel cyllid caledi.
Dileu Gordal y GIG, fel bod pawb sy'n astudio yn y DU yn gallu cael gofal iechyd am ddim.
Mynediad cyfartal i waith: dileu'r cap ar oriau gwaith ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Datganoli pŵer i lywodraethau ar draws pedair gwlad y DU i osod eu rheolau eu hunain ar fyfyrwyr rhyngwladol
Dileu’r trothwy cyflog ar gyfer nawdd fisa, gan sicrhau bod y DU yn lle agored a chroesawgar i fyfyrwyr o bob rhan o’r byd, a symleiddio’r llwybr ar gyfer graddedigion a chyflogwyr.
Ymestyn hawliau a breintiau'r Ardal Deithio Gyffredin i bob myfyriwr rhyngwladol.
Ailymuno â Chynllun Erasmus+, ac adfer cyllido Erasmus+ i golegau addysg bellach a sefydliadau cymunedol.
Campysau diogel a rhydd
Diddymu'r deddfau ffug 'rhyfeloedd diwylliant' sy'n tanseilio'n democratiaeth ac yn hybu rhaniadau.
Canolbwyntio cyfreithiau Rhyddid i Lefaru ar amddiffyn rhyddid i lefaru – nid dim ond lledaenu casineb.
Diddymu’r cyfyngiadau ar gyfranogiad dinesig, gan gynnwys cyfreithiau protest, cyfreithiau ID Pleidleiswyr a chyfreithiau undebau llafur.
Creu asiantaeth ryng-ffydd newydd, y mae sefydliadau ac undebau myfyrwyr yn berchen arni ar y cyd, er mwyn meithrin perthnasoedd cymunedol, ac i sicrhau bod myfyrwyr yn rhydd i allu arddel eu ffydd.
Sefydlu safonau cenedlaethol ar gyfer prifysgolion a cholegau i fynd i’r afael â thrais, cam-drin ac aflonyddu rhywiol, gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant cydsyniad mewn colegau.
Ariannu ôl-osod adeiladau campws, a safonau ar gyfer adeiladau newydd, fel bod hygyrchedd yn cael ei wreiddio ym mhob campws.
Amddiffyn y Ddeddf Hawliau Dynol, fel y gallwn gymryd camau yn erbyn camwahaniaethu a chasineb.
Diwygio Lwfans Myfyrwyr Anabl a Thaliadau Annibyniaeth Bersonol, er mwyn creu system deg a thrugarog o gymorth i fyfyrwyr anabl.
Beth mae Myfyrwyr yn ei Feddwl
Mae 95% o fyfyrwyr yn meddwl y dylid gwneud mwy i fynd i'r afael â thrais a chamymddwyn rhywiol.
Mae 77% o fyfyrwyr yn meddwl y dylid diddymu’r cap ar oriau gwaith ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Mae 96% o fyfyrwyr yn meddwl y dylid gwneud mwy i wneud bywyd ar y campws yn hygyrch i fyfyrwyr a phrentisiaid anabl.