Y presennol a’r dyfodol
Arferai'r GIG fod y system iechyd fwyaf blaenllaw yn y byd – ac ar ôl blynyddoedd o danariannu systemig, mae ar ei gliniau.
Fel myfyrwyr, rydym yn ddefnyddwyr y GIG ac yn nyrsys, meddygon, parafeddygon, llawfeddygon, anesthetyddion, bydwragedd, seiciatryddion, a radiolegwyr dan hyfforddiant.
Mae argyfwng iechyd meddwl yn effeithio ar bobl ifanc a myfyrwyr ledled y DU. Mae’n annodd dirnad bod ein GIG bellach mewn sefyllfa lle na all plant mewn argyfwng gael y gofal y mae gwir ei angen arnynt.
Presennol a dyfodol amgen
Ym 1937, 11 mlynedd cyn sefydlu'r GIG, roedd myfyrwyr yn cydweithio i sicrhau gofal iechyd am ddim ar y campws i'w gilydd.
Gallem fod â dyfodol lle mae gofal iechyd o ansawdd uchel ar gael am ddim i bob person yn y DU – a GIG y mae trethdalwyr yn falch o’i ariannu ac y mae staff yn falch o weithio ynddo.
Pe bai pawb yn gallu trefnu apwyntiad â meddyg teulu a chael mynediad at y gofal iechyd sydd ei angen arnynt heb arosiadau hir, a bod holl staff y GIG yn cael eu talu’n deg, nid yn unig y byddem yn gymdeithas iachach ond byddem yn fwy cynhyrchiol, gyda mwy o gyfle a mynediad i’n llawn botensial.

Syniadau polisi
Gwneud y DU yn archbwer iechyd
Cyflawni chwyldro mewn ymchwil, cyllido cyfleusterau lefel uchel, ariannu pob myfyriwr gofal iechyd yn gyhoeddus a buddsoddi mewn myfyrwyr ymchwil a hyfforddiant ôl-ddoethurol fel y gallwn harneisio’r chwyldro technoleg byd-eang ac arwain y byd ym maes gofal iechyd.
Ymestyn gofal iechyd sy’n gysylltiedig â thrawsnewid, gan fuddsoddi mewn hyfforddiant ar gyfer staff y GIG yn awr ac yn y dyfodol, a rhoi pwerau i feddygon teulu a nyrsys gynnig presgripsiwn am hormonau ar gyfer gofal iechyd sy’n cadarnhau rhywedd.
Ariannu'r rhai sy'n gweithio yn y GIG: talu pob gweithiwr gofal iechyd yn deg, gan gynnwys ariannu bwrsariaethau ar gyfer pob myfyriwr gofal iechyd.
Chwyldro mewn ymateb ac atal ar gyfer gofal iechyd meddwl
Cynnydd sylweddol o ran gallu gwasanaethau, recriwtio a dargadwedd i ddiwallu anghenion cynyddol gwasanaethau iechyd meddwl y GIG yn y tymor hir.
Arloesi a buddsoddi mewn ymchwil a hyfforddiant ar gyfer proffesiynwyr gofal iechyd ac eraill sy'n gweithio mewn rolau rheng flaen gyda'r rhai sy'n profi iechyd meddwl gwael.
Cyflawni chwyldro mewn gofal ataliol a lleihau niwed: mynd i'r afael ag achosion salwch corfforol a meddyliol, e.e. tlodi a straen, ac ariannu sefydliadau cymunedol i fynd i'r afael ag unigrwydd.
Mynd i'r afael ag achosion salwch meddwl gan gynnwys dileu tlodi myfyrwyr
- Dileu tlodi a straen fel methu â fforddio bwyd a thai
- Ariannu sefydliadau cymunedol, gan gynnwys undebau myfyrwyr, sy'n meithrin cyfeillgarwch, yn mynd i'r afael ag unigrwydd ac yn gwella hunan-barch.
Beth mae Myfyrwyr yn ei Feddwl
Mae 98% o fyfyrwyr am weld amseroedd aros y GIG yn cael eu lleihau.
Mae 77% o fyfyrwyr yn credu y dylai buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant yn y GIG, mewn addysg ac ar-lein fod yn brif flaenoriaeth.
Roedd 62% o fyfyrwyr yn gweld ymestyn y ddarpariaeth gofal iechyd yn ymwneud â thrawsnewid fel mater o flaenoriaeth.