Y presennol a’r dyfodol
Nid yw ein system addysg yn addas at y diben heddiw, heb sôn am y dyfodol.
- Mae graddedigion sy'n ennill dros £27.5k yn talu cyfradd dreth ymylol o 41%
- Ni fydd 61% o fyfyrwyr byth yn talu eu benthyciadau llawn yn ôl
- Mae 17.1 miliwn o oedolion heb y sgiliau digidol ar gyfer eu swyddi
- Bydd prinder sgiliau'r DU yn costio £120bn i ni erbyn 2030
O'r oedran cynnar, dylai ein haddysg ein paratoi ar gyfer bywyd - ac ar hyn o bryd nid yw'n gwneud hynny. Fe'n dysgir i gofio ffeithiau a ffigurau - ond yr hyn sydd ei angen arnom yw sgiliau technolegol, meistroli'r chwyldro Deallusrwydd Artiffisial, sut i lywio newyddion ffug, beth mae pleidleisio yn ei olygu mewn gwirionedd, a sut i eirioli drosom ein hunain.
Nid yw'r llywodraeth yn ariannu'r sector addysg yn gynaliadwy ac yn sefydlog. Mae ein colegau wedi dioddef diffyg ariannu ers blynyddoedd, gan eu gorfodi i wneud toriadau a methu â thalu staff yn deg. Mae prifysgolion yn cael eu gorfodi i gystadlu am gyllid fel marchnad. Yr unig ffordd y gallant barhau i weithredu yw trwy ddod â mwy a mwy o fyfyrwyr i mewn er mwyn cael eu hincwm ffioedd - felly maen nhw’n buddsoddi mewn pethau y maent yn meddwl fydd yn ein denu, ond nid oes ganddynt yr adnoddau i addysgu a chefnogi pawb unwaith y byddant wedi cyrraedd y brifysgol. Nid gormod o bobl yn mynd i mewn i addysg uwch yw’r broblem, ond yn hytrach tangyllido systemig.
Mae'r system gyfan wedi'i hadeiladu ar dywod: ac mae hyn yn golygu nad oes gan neb mewn gwirionedd y sicrwydd i fynd ati i arloesi. Oni fyddwn yn rhoi gwerth ar addysg a myfyrwyr fel cymdeithas, yna ni fydd gennym yr arloesedd a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ein hamgylchedd technolegol newidiol. Bydd busnes yn crebachu. Bydd ein heconomi’n crebachu. Bydd y DU ar ei hôl hi.
Presennol a dyfodol amgen
Gyda’r model ariannu cywir a ffocws gwahanol ar sgiliau a’r cwricwlwm, gallwn wneud y canlynol:
Gwneud newidiadau systemig i gyllido addysg, myfyrwyr a phrentisiaid, gan sicrhau bod addysg am ddim wrth ei chyrchu, ac wedi’i hariannu’n gynaliadwy ac yn gyhoeddus, a bod prifysgolion a cholegau yn gwasanaethu’r cymunedau y maent ynddynt.
Datblygu addysg dechnegol ac uwch wirioneddol ragorol lle mae myfyrwyr, waeth beth fo'u cefndir a'u lefelau astudio, yn cymryd rhan mewn addysg arloesol a chydweithredol sy'n eu paratoi ar gyfer eu bywydau, heb unrhyw lwybr gwael trwy addysg drydyddol.
Gyda model ariannu newydd, sefydlog byddwn yn gweld y sylfeini sydd eu hangen ar staff rhagorol ein prifysgolion a’n colegau i allu arloesi â’u hymchwil a’u haddysgu eu hunain a darparu addysg flaenllaw ar bob lefel.
Gyda chwricwlwm ar draws colegau a phrifysgolion sy’n gyfoes, gallwn sicrhau bod pawb sy’n astudio cwrs a chymhwyster yn gallu cyflawni ar eu gorau’n bersonol, a bod ganddynt y sgiliau i gefnogi a chyfrannu at gymunedau a helpu i frwydro yn erbyn yr argyfyngau yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Gallwn sefydlu dysgu gydol oes fel dyhead realistig i bob unigolyn yn y wlad hon, gyda phrifysgolion a cholegau yn cynnig graddau atodol, fel y gall pawb uwchsgilio ar hyd eu hoes, a gwerthfawrogi dysgu gydol eu hoes.
Syniadau polisi
Ar gyfer myfyrwyr:
Diwygio cyllido addysgu a chynhaliaeth yn radical, fel bod addysg am ddim pan gaiff ei chyrchu, trwy ddileu ffioedd dysgu a sefydlu cyllid grant sy'n ddigon i dalu costau byw myfyrwyr.
Dileu'r system benthyciadau myfyrwyr presennol a dileu'r holl 'ddyled ffug' ar gyfer y rhai sydd arnynt arian i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Hawl Dysgu Gydol Oes, ar gyfer tri chymhwyster, gyda chefnogaeth hawl i gynhaliaeth myfyrwyr a mynediad at ofal plant fel bod unrhyw un sydd am ail-ddechrau mewn addysg yn gallu gwneud hynny ar unrhyw adeg yn eu bywydau.
Ar gyfer prifysgolion a cholegau:
Sefydlogi cyllido addysg uwch i sicrhau ei bod yn deg, am ddim pan gaiff ei chyrchu, ac yn cael ei hariannu'n gyhoeddus.
Cyflwyno isafswm cyfraniad cyflogwr at hyfforddiant ac addysg gweithwyr.
Ariannu bywyd campws: rhoi cymhorthdal i angenrheidiau’r campws ar gyfer pob myfyriwr, gan gynnwys cludiant am ddim i’r campws ac oddi yno, bwyd am ddim ar y campws, a grantiau i dalu costau offer a deunyddiau ar gyfer dysgwyr galwedigaethol.
Buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer ein dyfodol
Sefydlu Tasglu Trawsnewid Sgiliau i weithio gydag addysgwyr, undebau, cyflogwyr a’r llywodraeth i nodi a gwreiddio’r sgiliau sydd eu hangen i arwain y ffordd ar arloesi technolegol, i wrthdroi’r argyfwng hinsawdd, ac i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.
Cymell colegau a phrifysgolion i gyflwyno modiwlau atodol ôl-gymhwyso, er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr barhau i ddatblygu eu sgiliau a symud ymlaen unwaith y bydd eu cyrsiau wedi gorffen.
Cyllido ar unwaith ar gyfer swyddi gwyrdd, ymchwil ac ailhyfforddi, i wneud yn siŵr bod gan ein cenhedlaeth ni’r sgiliau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Cadw cymwysterau galwedigaethol eang o ansawdd uchel er mwyn sicrhau dewis i fyfyrwyr galwedigaethol.
Sicrhau bod gan bob prentis brentisiaeth o ansawdd uchel, gyda hyfforddiant ar sail rhyddhau-o’r-gweithle fesul diwrnod neu fesul bloc ardderchog, ynghyd â datblygiad proffesiynol parhaus.
Buddsoddi mewn myfyrwyr fel dinasyddion
Cyllido darparwyr addysg bellach i fuddsoddi mewn undebau myfyrwyr rhagorol ar gampws pob coleg.
Gosod gwerth ar addysg dinasyddiaeth mewn colegau, a chynnwys addysg ariannol, gwleidyddol ac addysg i bleidleiswyr i’n darparu â sgiliau am oes.
Ei gwneud yn ofynnol i golegau a phrifysgolion gynnig gwasanaeth cofrestru pleidleiswyr yn ystod y broses ymrestru.
Gostwng yr oedran pleidleisio i 16 a chofrestru bob person ifanc 16 oed yn awtomatig i bleidleisio.
Beth mae Myfyrwyr yn ei Feddwl
Mae 84% o fyfyrwyr yn credu y dylid diddymu ffioedd dysgu.
Mae 89% o fyfyrwyr yn credu y dylai fod yn haws cael mynediad i addysg bellach.
Mae 86% o fyfyrwyr eisiau i bleidiau fynd i’r afael â phrentisiaethau o ansawdd uchel.