Y presennol a’r dyfodol
Ni all pobl astudio os na allant ddiwallu eu hanghenion sylfaenol. Mae ymchwil wedi canfod y canlynol:
- Mae 65% o fyfyrwyr yn torri'n ôl ar fwyd
- Mae 77% o gyflogau teuluoedd myfyrwyr yn cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw
- Mae iechyd meddwl 46% o fyfyrwyr wedi gwaethygu ers mis Medi 2023
- O'r myfyrwyr llawn-amser sy'n gweithio, mae 1 o bob 5 yn gweithio mwy nag 20 awr yr wythnos
Mae myfyrwyr yn cael eu gweld fel targedau hawdd i’w blingo. Mae landlordiaid a chyflogwyr yn cymryd mantais ohonom; mae ein prifysgolion a’n colegau’n ceisio datrys eu problemau diffyg cyllido trwy gynyddu eu hincwm gan gynnig gyda bwyd a llety drud wedi’i ddarparu’n allanol i fyfyrwyr. Mae ein hiechyd meddwl yn dioddef, ac ni allwn gael y driniaeth sydd ei hangen arnom - ac rydym yn gweld ein ffrindiau a'n cydweithwyr rhyngwladol yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd.
Mae'r llywodraeth yn tybio bod gennym ni i gyd ddau riant ar incwm dosbarth canol, yn barod i dalu drosom ni - ond nid dyna pwy ydyn ni bellach. Mae hyn i gyd yn golygu nad oes gennym ni'r arian i ganolbwyntio ar ein hastudiaethau.
Presennol a dyfodol amgen
Dychmygwch pe baem ni i gyd yn gallu fforddio byw mewn cartref o ansawdd da, bod gennym yr amser a'r arian i fwyta bwyd iach, maethlon, a'r egni i ganolbwyntio ar ein haddysg.
Mae campysau ledled Ewrop yn gallu cefnogi ein cenhedlaeth o fyfyrwyr i fyw fel hyn, felly pam na allwn ni? Byddem yn treulio mwy o amser yn dysgu – a llai o amser yn meddwl am yr hyn y gallwn ei wneud dim ond i allu goroesi.
Mae angen isafswm safon byw arnom, fel y gallwn ganolbwyntio ar yr hyn y daethom i addysg ar ei gyfer: dysgu!
Pan fydd myfyrwyr yn cael y gefnogaeth angenrheidiol, rydym yn gweld mwy o amser yn mynd i mewn i'n hastudiaethau, i ddatblygu ein hunain, i arloesi, ac i gyrraedd ein potensial - ond rydym hefyd yn gweld llai o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus a'r wladwriaeth les, oherwydd ein bod yn iachach ac yn cyfrannu mwy. Mae hyn yn rhyddhau adnoddau cymdeithasol i adeiladu ein dyfodol a buddsoddi mewn seilwaith hirdymor.
Mae gennym ni’r amser a’r lle i wireddu ein gobeithion a’n breuddwydion – yn union yr un fath ag oedd gan y cenedlaethau o’n blaenau.
Gyda’r pecyn hwn o fesurau, gallem godi pob myfyriwr yn y DU allan o dlodi, rhoi gobaith i bob un ohonom ar gyfer y dyfodol, a’i gwneud yn bosibl i astudio er mwyn ysgogi cyfleoedd i’n cenhedlaeth unwaith eto.

Syniadau polisi
Codi pob myfyriwr allan o dlodi uniongyrchol gyda phecyn argyfwng costau byw ar gyfer myfyrwyr.
Gweithredu ar unwaith ar gyllido myfyrwyr:
- Cynyddu benthyciadau cynhaliaeth yn unol â chwyddiant, wedi'i ôl-ddyddio i fis Mehefin 2022, ac ymrwymiad i adfer grantiau cynhaliaeth wedi’u hariannu’n deg.
- Cyflwyno benthyciadau di-log fel y gall pawb gael mynediad at gyllid myfyrwyr
- Cyflog Byw i brentisiaid
- Cyllido cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir
- Cyflog Byw ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
- Ymestyn cymhwysedd ar gyfer Credyd Cynhwysol i bob myfyriwr a phrentis
Sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cael mynediad i lety trwy:
- Sicrhau bod 35% o'r holl lety myfyrwyr yn fforddiadwy, gyda rhenti ynghlwm ag incwm cyfartalog myfyrwyr
- Ymrwymo i reoli rhenti dros gyfnod y llywodraeth nesaf
Buddsoddi mewn darpariaeth gofal iechyd lleol er mwyn:
- Dileu rhestrau aros ar gyfer gofal iechyd meddwl
- Sicrhau nad oes unrhyw darfu ar lwybrau gofal pan fydd pobl yn cyrraedd 18 oed neu'n symud tŷ ac yn symud ar draws y DU
- Diweddaru rheoliadau mewn gofal iechyd ar gyfer cadarnhau rhywedd er mwyn rhoi pwerau i feddygon teulu a nyrsys gynnig presgripsiwn ar gyfer hormonau
Beth mae Myfyrwyr yn ei Feddwl.
Mae 94% o fyfyrwyr yn torri’n ôl ar wariant oherwydd yr argyfwng costau byw
Mae 89% o fyfyrwyr eisiau gweld grantiau cynhaliaeth sy'n cyfateb i'r Cyflog Byw.
Mae 91% o fyfyrwyr yn credu y dylid talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i brentisiaid