Polisïau a gyflwynwyd i Gynhadledd UCM Cymru 2024

English

Mae canlyniadau'r Bleidlais Flaenoriaethu ar gyfer Cynhadledd UCM Cymru wedi cyrraedd!

Yn dilyn pleidleisio gan Brif Gynrychiolwyr, bydd y polisïau canlynol yn cael eu trafod yng Nghynhadledd UCM Cymru yn Aberystwyth ddydd Mawrth 19eg a dydd Mercher 20fed Mawrth:

 

Slotiau Polisi wedi’u Neilltuo

Yn ogystal â'r ddau bolisi uchod, mae yna hefyd un slot wedi’i neilltuo ar gyfer trafodaeth bolisi yng Nghynhadledd Cymru:

Bydd y polisi ar ddiwygio democratiaeth a threfniadaeth UCM yn cael ei drafod oherwydd bod Cynhadledd Genedlaethol UCM 2023 wedi pasio polisi yn rhoi mandad i archwilio diwygiadau o’r fath. Mae hyn yn cynnwys trafodaeth ar ddyfodol UCM Cymru yn ogystal â chynnig i newid ein henw (yn Saesneg) i NUS Cymru, a gyflwynwyd gan Undeb Bangor.

 

Y Camau Nesaf

Cynhelir gweithdy pwrpasol yn y Gynhadledd ar gyfer y tri pholisi a restrir uchod, lle cânt eu trafod ymhellach a'u siapio'n bolisïau terfynol.

Bydd y polisïau na chafodd eu blaenoriaethu yn y Bleidlais Flaenoriaethu yn cael eu hanfon at Lywydd UCM Cymru i ystyried sut y gall UCM Cymru symud y gwaith yn ei flaen:

Gallwch weld yr holl bolisïau, gwybodaeth am y bleidlais flaenoriaethu, a gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan gynigwyr yn y ffolder hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ganlyniadau'r Bleidlais Flaenoriaethu neu sut y bydd trafodaethau polisi yn gweithio yn y Gynhadledd, anfonwch e-bost at [email protected].