Papur Diwygio 2024

English

Er Mwyn Ein Dyfodol: adfywio ein hundeb cenedlaethol

Diwygiadau UCM DU 

 

Beth yw'r mater dan sylw a pham ei fod yn bwysig?

1. Rydyn ni'n byw mewn cyfnod o newid cyflym yn ein cymdeithas - yn wleidyddol, yn economaidd ac yn dechnolegol. Megis dechrau ydym ni o ran deall sut y bydd hyn yn trawsnewid ein haddysg, ein hundebau myfyrwyr a’n bywydau. 

2. Yn wyneb newid na ellir ei wadu, ni all UCM DU aros yn ei unfan a gwylio o'r cyrion, mae'n rhaid i ni ymateb i anghenion esblygol ein mudiad. Rhaid i ni addasu, gwella ac ailddyfeisio ein hundeb cenedlaethol yn gyson i wneud yn siŵr ei fod yn addas i frwydro dros fyfyrwyr yn y degawdau i ddod.

3. Er mwyn diogelu UCM DU at y dyfodol, mae angen strwythurau a llywodraethiant arnom sy'n ein galluogi i symud yn gyflym, gwneud y mwyaf o'r potensial i aelodau siapio gwaith UCM yn ystod y flwyddyn, tra'n profi a mabwysiadu gwahanol ddulliau i'n gwaith gael ei ddylanwadu'n uniongyrchol gan y 7 miliwn o fyfyrwyr yr ydym yn eu cynrychioli.

4. Bu galwadau cyson gan ein haelodau i bob Gwlad gael mwy o ymreolaeth ac i UCM fabwysiadu ffyrdd mwy datganoledig o weithio sy'n galluogi ymgysylltu ehangach a dyfnach ar draws y mudiad.

5. Yn ein cynadleddau democrataidd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae aelodau wedi pleidleisio i drawsnewid y ffordd y mae UCM yn gweithio.

6. Rydym wedi clywed yn glir bod myfyrwyr a Swyddogion Sabothol fel ei gilydd eisiau cysylltiad mwy uniongyrchol â'u hundeb cenedlaethol. Er mwyn i UCM barhau i fod yn llais cenedlaethol pwerus a chredadwy i fyfyrwyr, mae'n hanfodol ein bod yn cryfhau ein cysylltiadau â'r ddwy garfan yma.

7. Ein pŵer cyfunol yw ein cryfder mwyaf. Ni ddylai sicrhau ymreolaeth wleidyddol gwledydd a grwpiau rhyddhad wanhau ein hymrwymiad i gyfunoliaeth mewn unrhyw ffordd.

8. Ar ôl 102 mlynedd o fodolaeth, dyma ein cyfle i gyflawni undeb cenedlaethol sy'n ymgysylltu'n llawn ac yn grymuso ei holl aelodau.

 

Beth ydyn ni'n ei gredu ymhellach?

9. Trwy bolisi a basiwyd mewn Cynadleddau Cenedlaethol, Rhyddhad a Chynadleddau’r Alban a Chymru, mae gan UCM fandad clir ar gyfer diwygio.

10. Mae ymgynghoriad helaeth ar gynigion drafft a gyhoeddwyd yn 2023 yn dangos cefnogaeth eang i’r diwygiadau hyn ymhlith aelodau ym mhob un o’r pedair gwlad, mewn addysg bellach ac uwch.

11. Dylid cadw at egwyddorion cynaladwyedd ariannol o’r gyfres ddiwethaf o ddiwygiadau yn 2019 fel nad yw gwariant craidd UCM yn cynyddu;

  • Ni ddylai'r ffi ymaelodaeth gynyddu ar gyfer UMau
  • Ni ddylai nifer y staff i gefnogi Swyddogion Ll-A ostwng i lai na 3.8:1
  • Dylai UCM y DU barhau i greu gwarged o £175k yn flynyddol i ailadeiladu cronfeydd wrth gefn

12. Yn UCM, fel mewn cymdeithas yn ehangach ym Mhrydain, mae 'DU' a 'Lloegr' yn aml yn gyfystyr o ran polisi, ymgyrchoedd, arweinyddiaeth etholedig, a chyfathrebu.

13. Mae'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn 'wledydd datganoledig' gydag arweinwyr etholedig, llywodraethau, pwerau a gweithgareddau datganoledig. Mae mwyafrif y materion y mae UCM yn ymgyrchu arnynt wedi'u datganoli, gan gynnwys addysg, tai, iechyd a thrafnidiaeth.

14. Mae Lloegr yn cyfrif am 80% o aelodaeth UCM. O ganlyniad, mae ymgyrchoedd a strwythurau UCM DU yn aml yn canolbwyntio ar Loegr. Er mwyn i'r pedair gwlad allu penderfynu ac ymgyrchu'n effeithiol ar eu blaenoriaethau eu hunain, rhaid i'r DU a Lloegr gael eu gwahanu yn strwythurau UCM. Bydd UCM Lloegr yn cynnwys cynhadledd ar gyfer UMau yn Lloegr, gyda swyddogion etholedig, llunio polisïau, a chapasiti ar gyfer ymgyrchoedd.

15. Dylai cynrychiolaeth y DU barhau trwy Bwyllgor Gwaith y Swyddogion, sy'n cynnwys 7 swyddog o bedair gwlad; a bydd ymgyrchu ledled y DU yn digwydd pan fydd gwledydd yn dewis cydweithio ar flaenoriaethau a rennir.

16. Bydd llywodraethiant corfforaethol a seilwaith sefydliadol yn parhau i gael eu darparu ar lefel y DU.

17. Bydd gweithio ledled y DU hefyd yn digwydd trwy'r Gydweithfa Ryddhad, sef strwythur rhyddhad newydd sy'n cynnwys model aelodaeth unigol ar gyfer unrhyw fyfyriwr neu swyddog sabothol sy'n diffinio fel aelod o grŵp rhyddhad.

18. Dylai undebau sy'n aelodau fod yn rhan annatod o waith UCM mewn tair ffordd allweddol; trwy gyfrannu syniadau a safbwyntiau; bod yn rhan o gynnal ymgyrchoedd; a darparu cymorth a chraffu.

19. Mae pob gwlad yn gweithredu ar raddfa wahanol ac o fewn cyd-destun unigryw. Dylai diwygiadau gyflwyno pwerau newydd sy’n galluogi gwledydd i benderfynu ar y strwythurau ymgysylltu ag aelodaeth sy’n gweithio orau iddynt hwy, cyn belled â’u bod yn cyflawni’r tri gofyniad allweddol uchod.

 

Beth mae'r Gynhadledd hon yn ei benderfynu

20. Bod y diwygiadau yn rhoi ymreolaeth wleidyddol i bob gwlad, tra'n harneisio cryfder ein mudiad cydweithredol.

21. Y bydd strwythurau ymgysylltu â’r aelodaeth a benderfynir gan bob gwlad ac o ran rhyddhad yn grymuso aelodau ac yn cryfhau eu hymwneud a'u cysylltiad ag UCM.

22. Cyfarwyddo'r Pwyllgor Llywio i ddrafftio set newydd o Reolau ar gyfer y gynhadledd yn seiliedig ar egwyddorion diwygio'r polisi hwn a'r trafodaethau a gynhaliwyd mewn gweithdai yn y cynadleddau. Bod y rheolau newydd hyn yn cael eu cynnig i gynrychiolwyr mewn cynadleddau i'w mabwysiadu yn y flwyddyn academaidd nesaf.

23. Cefnogi diwygiadau y cynhelir pleidlais arnynt yng Nghynhadledd Genedlaethol UCM 2024 a chyfarfod Cyfraith Cwmnïau.

 

Effaith benodol ar UCM Cymru

  • Cyfle i gyflwyno cynrychiolaeth benodol ar gyfer Gogledd Cymru mewn strwythurau democrataidd
  • Creu mecanwaith craffu ar sail Cynrychiolwyr UCM Cymru, yn lle'r Cyngor Craffu Cenedlaethol

 

Cyflwynwyd polisi i Gynhadledd UCM Cymru yn ymwneud â’r enw ‘NUS Wales’ (yn Saesneg) gan Undeb Bangor. Cytunodd y Pwyllgor Llywio, yn hytrach na thrafod hyn hwn fel polisi ar ei ben ei hun, fod hyn yn cyd-fynd â’r drafodaeth ar ddiwygio yn y gynhadledd gan ei fod yn ymwneud â sut mae UCM Cymru yn gweithio. Felly cytunwyd i ychwanegu'r cynnig canlynol fel trafodaeth benodol fel rhan o weithdai'r Gynhadledd.

Bydd y gynhadledd yn trafod set newydd o reolau a gweithdrefnau ar gyfer sut mae UCM Cymru yn gweithio. Os caiff ei basio, effaith y cynnig hwn fyddai diweddaru Rheolau Cynhadledd UCM Cymru i newid pob cyfeiriad at ‘NUS Wales’ (yn Saesneg) i 'NUS Cymru' a rhwymo unrhyw ailddrafftiau yn y dyfodol i ddefnyddio'r enw hwn.

Cyflwyniad gan Undeb Bangor

Beth yw'r mater dan sylw a sut mae'n effeithio ar Fyfyrwyr?

Mae tarddiad yr enw 'Wales' wedi'i drwytho mewn senoffobia gwrth-Gymreig. Daw o'r gair Eingl-Sacsonaidd am 'gaethwas' neu 'dramorwr', a fathwyd yn wreiddiol fel sarhad ar y wlad a'i phobl. I’r gymuned Gymraeg ei hiaith mae hyn yn ein hatgoffa o’n hanes o ormes wrth i’r enw barhau i gael ei ddefnyddio yn Saesneg, gan gynnwys yr enw sefydliadol ‘NUS Wales’, heb ystyriaeth i’w wir ystyr a’i gyd-destun hanesyddol. 

Credwn y dylai 'NUS Wales' ddilyn esiampl sefydliadau ar draws y wlad fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) a symud i ffwrdd o orffennol gormesol ein gwlad trwy wneud pob ymdrech i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' mewn lleoliadau cyhoeddus.

Pa newidiadau yr hoffem eu gweld mewn cymdeithas i newid hyn?

Dylai 'NUS Wales' symud i gyfeirio ato'i hun yn Saesneg, gan ddefnyddio'r enw Cymraeg, sef 'NUS Cymru'. 

Gweler y cyflwyniad gwreiddiol llawn gan Undeb Bangor yma