LCA: Llywodraeth Cymru i gynyddu grant myfyrwyr wythnosol

LCA: Llywodraeth Cymru i gynyddu grant myfyrwyr wythnosol

Bydd Lwfans Cynhaliaeth Addysg yng Nghymru’n cynyddu i £40 yr wythnos ar gyfer mwy na 16,000 o fyfyrwyr mewn colegau a chweched dosbarth o fis Ebrill 2023, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn golygu y bydd £10 ychwanegol yr wythnos ym mhocedi myfyrwyr ar adeg pan fo costau dysgu wedi codi’n aruthrol.

Mae LCA yn grant wythnosol a fwriadwyd i gynnal pobl ifanc 16 i 18 oed o gartrefi incwm isel gyda chostau addysg bellach, megis cludiant neu brydau bwyd.

Ym mis Chwefror 2023, lansiodd UCM Cymru ymgyrch yn galw am gynyddu LCA i adlewyrchu straen ariannol gwirioneddol astudio.

Rhybuddiodd UCM Cymru fod miloedd o fyfyrwyr mewn perygl o gael eu prisio allan o addysg oherwydd bod y grant wedi parhau ar £30 yr wythnos ers iddo gael ei gyflwyno yn 2004.

Meddai Llywydd UCM Cymru Orla Tarn:

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar fyfyrwyr ac wedi cyhoeddi cynnydd hir-ddisgwyliedig yn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA).

“Mae LCA yn hanfodol i gynnal pobl ifanc o deuluoedd incwm isel gyda chostau addysg bellach; fodd bynnag, yng nghyd-destun costau byw cynyddol, roedd yn amlwg bod angen cynnydd i atal dysgwyr ifanc rhag cael eu prisio allan o addysg.

” Aeth ymlaen i ddweud: “Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i fynd i’r afael â’r argyfwng cost dysgu. Mae myfyrwyr ledled Cymru’n wynebu argyfwng wrth i renti, biliau a phris bwyd gynyddu’n gyflym; hyn yn ogystal â chostau teithio sy’n gorfodi dysgwyr i ddewis rhwng mynychu dosbarthiadau a thalu am fwyd.

“Dylai unrhyw adolygiad o’r LCA fod yn seiliedig ar y ffordd orau o alluogi myfyrwyr addysg bellach i gyrraedd eu llawn botensial yn ein system addysg, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llais myfyrwyr wrth galon y broses o wneud penderfyniadau.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r cynnydd ar gyfer y ddwy flynedd academaidd nesaf tra bod adolygiad annibynnol o’r LCA yn cael ei gynnal.

Pwy all hawlio LCA?

Mae myfyrwyr AB rhwng 16 a 18 oed yn gymwys i gael LCA os yw incwm eu haelwyd yn £20,817 neu lai.

Os oes mwy nag un person ifanc yn y cartref mae’r trothwy incwm yn codi i £23,077.

Mae teclyn cyfrifo AB ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i wirio cymhwysedd ar gyfer LCA.

Y coleg sy'n penderfynu pwy sy'n gymwys ar gyfer arian o’r gronfa ac mae myfyrwyr yn gwneud cais uniongyrchol iddynt. Gall ddarparu arian ar gyfer pethau fel offer neu ddeunyddiau sy’n galluogi’r dysgwr i gymryd rhan yn y cwrs, costau gofal plant, costau teithio, llyfrau ac alldeithiau.

Gall awdurdodau lleol hefyd gynnig cymorth i fyfyrwyr 16-18 oed gyda chostau cludiant.

Gall myfyrwyr siarad â'u hysgol, ymweld â gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru neu eu coleg AB i gael rhagor o gyngor a chymorth ynghylch pa gynhaliaeth ariannol sydd ar gael.

Our Partners

Enable Recite Me accessibility tools