Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr a’ch bod yn gymwys i bleidleisio, bydd o leiaf un etholiad lleol i chi bleidleisio ynddo.
Mae mudiad y myfyrwyr yn arwain y ffordd wrth fynnu dyfodol gwell, mwy disglair, ond os ydym am i wleidyddion a phleidiau gwleidyddol gymryd sylw mae angen i ni atgyfnerthu ein geiriau gyda gweithredu yn y blwch pleidleisio.
Dim ond os byddwn yn troi i fyny mewn etholiadau y bydd ein llais yn cael ei glywed. Myfyrwyr yw 10% o'r boblogaeth sydd â’r hawl i bleidleisio; mae gennym ni'r pŵer i leisio ein barn.
Llofnodwch yr addewid i Droi i Fyny yn yr Etholiadau Lleol ar 2il Mai, a byddwn yn anfon yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i allu pleidleisio. To read this page in English, click here.