It’s no secret that universities in Wales are facing significant challenges—nor should it come as a shock to the government. The warning signs have been evident for years, with almost every Welsh university asking staff to leave voluntarily and some resorting to even more drastic measures. The recent announcement from Cardiff University that up to 400 jobs are at risk due to financial pressures, along with the University of Wales Trinity Saint David’s decision to close its Lampeter campus, serves as a stark reminder of the deepening crisis in the sector. Without urgent intervention, we will see more of these devastating cuts.
The Welsh Government must take responsibility for this issue and recognise education as a public good. While universities are autonomous, they receive public funding—and with that comes an expectation of accountability and good governance. For too long, Welsh universities have been left behind due to chronic underfunding and a lack of ambition from the government to rethink how higher education is supported. This isn’t just about small, incremental tuition fee increases or one-off injections of funding. What we need is a fundamental shift in how public money is allocated to higher education to ensure its long-term sustainability.
University staff have long been calling for improvements in pay, pensions, and working conditions—issues that remain unresolved. It is crucial that students stand in solidarity with lecturers during this crisis. The tactic of ‘divide and rule’ will not work. The problem is not with striking lecturers but with a system that has consistently failed them. The Welsh Government must engage in meaningful discussions about the long-term funding of higher education rather than applying short-term fixes that merely delay the inevitable.
At its core, universities should be focused on delivering high-quality education and providing opportunities for all—not chasing rankings in league tables. Cardiff University, for example, told students in an email that "they and Wales deserve a top 100 university." But what does that mean if financial instability leads to job losses, course closures, and reduced support for students? The consequences of inaction extend far beyond academia. Cuts to higher education threaten accessibility, disproportionately affecting those from disadvantaged backgrounds and undermining the principle that education should be a right, not a privilege.
The economic consequences of this crisis cannot be ignored. Welsh universities contribute over £5.3 billion to the economy—a figure that we simply cannot afford to jeopardise. With Cardiff University facing a £31.2 million operational deficit and the total deficit across Welsh universities projected to reach £70 million, the financial situation is dire. Other institutions, including Swansea University, Cardiff Metropolitan University, Aberystwyth University, and the University of South Wales, are also struggling under immense financial strain.
On the steps of the Senedd, numerous groups, individuals, and unions stood together to demand a better future. Our collective voice is much louder than our individual ones. We have many passionate people fighting for a better future, and it's crucial that we work together to achieve this. Without immediate and meaningful change, the future of higher education in Wales looks increasingly uncertain.
The Welsh Government must work with the UK Government to find a long-term solution. The current approach is failing, and the longer we wait, the worse the situation will become. If we do not act now, we risk losing not only jobs and campuses but also the very essence of what makes higher education in Wales accessible and valuable. The time for action is now. If you want to get involved in the conversation, join us as a supporter and stay up to date on what’s next.
Nid yw'n gyfrinach bod prifysgolion yng Nghymru’n wynebu heriau sylweddol - ac ni ddylai ddod yn sioc i'r llywodraeth ychwaith. Mae’r arwyddion rhybudd wedi bod yn amlwg ers blynyddoedd, gyda bron pob prifysgol yng Nghymru’n gofyn i staff adael yn wirfoddol a rhai yn troi at fesurau llymach fyth. Mae’r cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Caerdydd bod hyd at 400 o swyddi mewn perygl oherwydd pwysau ariannol, ynghyd â phenderfyniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gau eu campws yn Llambed, yn ein hatgoffa o’r argyfwng sy’n dwysáu yn y sector. Heb ymyriad ar frys, byddwn yn gweld mwy o’r toriadau dinistriol hyn.
Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd cyfrifoldeb am y mater hwn a chydnabod addysg fel budd cyhoeddus. Er bod gan brifysgolion ymreolaeth, maent yn derbyn arian cyhoeddus - a gyda hynny daw disgwyliad o atebolrwydd a llywodraethiant da. Ers yn rhy hir, mae prifysgolion Cymru wedi cael eu gadael ar ôl oherwydd tangyllido dybryd a diffyg uchelgais gan y llywodraeth i ailfeddwl sut mae addysg uwch yn cael ei chyllido. Mae a wnelo hyn â mwy na chynnydd bach graddol mewn ffioedd dysgu neu gyfraniadau ariannol untro. Yr hyn sydd ei angen arnom yw newid sylfaenol yn y modd y caiff arian cyhoeddus ei ddyrannu i addysg uwch er mwyn sicrhau ei chynaladwyedd hirdymor.
Mae staff ein prifysgolion wedi bod yn galw ers tro am welliannau mewn cyflog, pensiynau ac amodau gwaith - materion sydd heb eu datrys o hyd. Mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn sefyll mewn undod â darlithwyr yn ystod yr argyfwng hwn. Ni fydd tacteg 'rhannu a rheoli' yn gweithio. Nid darlithwyr yn mynd ar streic sydd wrth wraidd y broblem, ond yn hytrach system sydd wedi’u methu’n gyson. Rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal trafodaethau ystyrlon am gyllido addysg uwch yn yr hirdymor, yn hytrach na chynnig datrysiadau tymor byr sydd ond yn gohirio’r anochel.
Yn y bôn, dylai prifysgolion ganolbwyntio ar gyflwyno addysg o ansawdd uchel a darparu cyfleoedd i bawb - nid gwarchod eu safleoedd mewn tablau cynghrair. Dywedodd Prifysgol Caerdydd, er enghraifft, wrth fyfyrwyr mewn e-bost eu bod “nhw a Chymru'n haeddu prifysgol sydd ymlith y 100 orau”. Ond beth mae hynny'n ei olygu os yw ansefydlogrwydd ariannol yn arwain at golli swyddi, cau cyrsiau, a llai o gymorth i fyfyrwyr? Mae canlyniadau diffyg gweithredu yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae toriadau mewn addysg uwch yn bygwth hygyrchedd, yn effeithio’n anghymesur ar y rhai sydd o gefndiroedd difreintiedig ac yn tanseilio’r egwyddor y dylai addysg fod yn hawl, nid yn fraint.
Ni ellir anwybyddu deilliannau economaidd yr argyfwng hwn. Mae prifysgolion Cymru’n cyfrannu dros £5.3 biliwn i’r economi - swm na allwn fforddio ei beryglu. Gyda Phrifysgol Caerdydd yn wynebu diffyg gweithredol o £31.2 miliwn a chyfanswm y diffyg ar draws prifysgolion Cymru yn debygol o gyrraedd £70 miliwn, mae'r sefyllfa ariannol yn enbyd. Mae sefydliadau eraill, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, a Phrifysgol De Cymru, hefyd dan straen ariannol aruthrol.
Safodd nifer o grwpiau, unigolion, ac undebau gyda’i gilydd ar risiau’r Senedd i fynnu gwell dyfodol. Mae ein llais cyfunol yn llawer uwch na'n llais unigol. Mae gennym lawer o bobl angerddol yn ymladd dros ddyfodol gwell, ac mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i gyflawni hyn. Heb newid uniongyrchol ac ystyrlon, mae dyfodol addysg uwch yng Nghymru’n edrych yn fwyfwy ansicr.
Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ddatrysiad hirdymor. Mae’r ymagwedd bresennol yn methu, a pho hiraf y byddwn yn aros, y gwaethaf fydd y sefyllfa. Os na weithredwn ar fyrder, rydym mewn perygl o golli nid yn unig swyddi a champysau ond hefyd hanfod yr hyn sy’n gwneud addysg uwch yng Nghymru yn hygyrch ac yn werthfawr. Mae'n amser gweithredu nawr. Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn y sgwrs, ymunwch â ni fel cefnogwr a chael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd nesaf