The Welsh Government has today announced an increase in tuition fees to £9,535, in line with the UK Government, alongside a 1.6% increase in maintenance loans. While NUS Cymru welcomes the maintenance loan increase as a step toward supporting students, we remain deeply concerned about the rising burden of student debt. This marks the second fee cap increase for students in Wales in 2024.
A recent November 2024 survey by NUS Cymru found that 32% of students have less than £100 per month after paying their monthly housing costs with 1 in 10 students using foodbanks. Moreover, 32% of students have gone without heating to cut back costs, and 19% have missed an in-person class due not being able to afford transport.
This latest fee increase highlights the urgent need for fundamental reform of the UK higher education funding system. Equally, learners in Further Education colleges across Wales need robust support. While we welcome the crucial financial boost announced to colleges today, and hope to see some of this funding going directly to students, we continue to ask for increased student support for colleges. Despite recent increases to the Education Maintenance Allowance (EMA), the stagnant thresholds mean fewer students are eligible for this vital support.
We support the Welsh Government’s ambition to align student support with the National Living Wage and call on the UK Treasury to grant Wales greater autonomy over its financial support for students and funding for Welsh universities. After 25 years of devolution, Wales deserves the ability to manage its finances in line with its priorities, especially when these are vital to the nation’s economic and social future.
NUS Cymru remains committed to fighting for an accessible and inclusive higher education system that works for everyone, regardless of their background.
Commenting, NUS Cymru President, Deio Owen, said:
“I’m glad to see an increase in student maintenance, but it falls short of addressing the needs of many learners today. 1 in 10 of our students are using foodbanks, and almost 1 in 5 have missed class as they can’t afford transport.
By increasing fees, the government is effectively asking students to have a whip round to keep campuses going. Making students pay an extra £5 a week to keep the lights on is not sustainable and we urgently need a review of how Higher Education is funded in Wales.
“We urgently need fairer, future-proof funding for students and universities that ensures education is accessible for all and not a burden of debt for some of the most vulnerable in our society.”
Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi cynnydd mewn ffioedd dysgu i £9,535, yn unol â Llywodraeth y DU, ynghyd â chynnydd o 1.6% mewn benthyciadau cynhaliaeth. Tra bod UCM Cymru yn croesawu'r cynnydd yn y benthyciad cynhaliaeth fel cam tuag at gefnogi myfyrwyr, rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am faich cynyddol dyled myfyrwyr. Dyma’r ail gynnydd yn y cap ar ffioedd i fyfyrwyr yng Nghymru yn 2024.
Canfu arolwg diweddar gan UCM Cymru ym mis Tachwedd 2024 fod gan 32% o fyfyrwyr lai na £100 y mis ar ôl talu eu costau llety misol, gydag 1 o bob 10 myfyriwr yn defnyddio banciau bwyd. Ar ben hynny, mae 32% o fyfyrwyr wedi mynd heb wres er mwyn arbed costau, ac mae 19% wedi methu dosbarth wyneb-yn-wyneb oherwydd na allant fforddio costau teithio.
Mae’r cynnydd diweddaraf hwn mewn ffioedd yn amlygu’r angen dybryd am ddiwygio sylfaenol ar system ariannu addysg uwch y DU. Yn yr un modd, mae angen cymorth cadarn ar ddysgwyr mewn colegau Addysg Bellach ledled Cymru. Er ein bod yn croesawu’r hwb ariannol hollbwysig a gyhoeddwyd i golegau heddiw, ac yn gobeithio gweld rhywfaint o’r cyllid hwn yn mynd yn uniongyrchol i fyfyrwyr, rydym yn parhau i ofyn am fwy o gymorth i fyfyrwyr mewn colegau. Er gwaethaf y cynnydd diweddar yn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), mae’r ffaith bod trothwyon wedi aros yr un fath yn golygu bod llai o fyfyrwyr yn gymwys ar gyfer y cymorth hanfodol hwn.
Rydym yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i alinio cymorth i fyfyrwyr â’r Cyflog Byw Cenedlaethol ac yn galw ar Drysorlys y DU i roi mwy o ymreolaeth i Gymru dros y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr a’r cyllid a ddyrennir i brifysgolion Cymru. Ar ôl 25 mlynedd o ddatganoli, mae Cymru’n haeddu’r gallu i reoli ei chyllid yn unol â’i blaenoriaethau, yn enwedig pan fo’r rhain yn hollbwysig i ddyfodol economaidd a chymdeithasol y genedl.
Mae UCM Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i frwydro dros system addysg uwch hygyrch a chynhwysol sy'n gweithio i bawb, waeth beth fo'u cefndir.
Meddai Llywydd UCM Cymru, Deio Owen:
“Rwy’n falch o weld cynnydd mewn cynhaliaeth i fyfyrwyr, ond nid yw’n mynd i’r afael ag anghenion llawer o ddysgwyr heddiw. Mae 1 o bob 10 o’n myfyrwyr yn defnyddio banciau bwyd, ac mae bron i 1 o bob 5 wedi methu dosbarth am na allant fforddio costau teithio.
Trwy gynyddu ffioedd, mae'r llywodraeth i bob pwrpas yn gofyn i fyfyrwyr fynd i’w pocedi er mwyn cadw campysau i fynd. Nid yw gwneud i fyfyrwyr dalu £5 ychwanegol yr wythnos i gadw'r goleuadau ymlaen yn gynaliadwy, ac mae angen adolygiad brys arnom o'r modd y caiff Addysg Uwch ei hariannu yng Nghymru.
“Rydym angen cyllido tecach, sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a hynny ar fyrder i fyfyrwyr a phrifysgolion sy’n sicrhau bod addysg yn hygyrch i bawb, ac nid yn faich dyled i rai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.”