Rydym yn fyfyrwyr, ac mae gennym weledigaeth ar gyfer Cymru well.
Mae'n weledigaeth radical ar gyfer newid sy'n rhoi blaenoriaeth i ansawdd bywyd ac amddiffyn ein planed.
Mae myfyrwyr Cymreig yn gaeth mewn cylch argyfwng: iechyd meddwl, costau byw, rhenti cynyddol, a thangyllido cronig yn achosi streiciau cyson. ·
- Mae gan fyfyrwyr cyffredin 50c i fyw arno bob wythnos ar ôl talu rhent
- Mae 65% o fyfyrwyr yn torri'n ôl ar fwyd oherwydd ni allant fforddio bwyta
- Yn achos 46% o fyfyrwyr, mae eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers mis Medi 2023
Credwn fod gan Gymru’r potensial i fod yn wlad lle mae dysgwyr yn ffynnu. Un ble mae pobl yn dyheu am astudio, ac yn helpu i gyfrannu at economi a chymdeithas Gymreig gref.
Dim ond os yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n gweithio ochr-yn-ochr ar gyfer dyfodol gwell y gellir gwireddu ein gweledigaeth.
Dyna pam rydyn ni wedi creu'r Maniffesto Ar Gyfer Ein Dyfodol.
Mae ein Maniffesto i Gymru yn ganlyniad i ymgynghori â mwy na 10,000 o fyfyrwyr a phrentisiaid ar draws y DU.
Mae UCM Cymru yn falch o gynrychioli dros 270,000 o fyfyrwyr, dysgwyr a phrentisiaid - ac rydyn ni'n siarad ag un llais.
Cliciwch yma i lawrlwytho'r maniffesto (Saesneg)
Cliciwcg yma i lawrlwytho'r maniffesto (Cymraeg)
Yr hyn myfyrwyr am ei weld yn yr etholiad cyffredinol nesaf:
Mae Maniffesto ar gyfer Ein Dyfodol yn gofyn am BUMP o bethau allweddol.
Yn y 100 diwrnod cyntaf:
- Torri'r cylch argyfwng myfyrwyr: Codi pob myfyriwr yn y DU allan o dlodi a rhoi gobaith i bob un ohonom ar gyfer y dyfodol.
- Buddsoddi mewn dyfodol llewyrchus, buddsoddi mewn addysg: Addysg sydd am ddim lle caiff ei chyrchu, ac a ariennir yn gynaliadwy ac yn gyhoeddus.
- Cartrefi ar gyfer ein dyfodol: Tai gwyrdd, fforddiadwy o safon dda i bawb.
- Dyfodol croesawgar a chynhwysol: Dylai Cymru fod yn lle anhygoel i fyfyrwyr rhyngwladol weithio ac astudio ynddo.
- Dyfodol iach: Gofal iechyd o ansawdd uchel ar gael am ddim i bob person yn y DU.
Gallwch ddod o hyd i'r fersiwn DU gyfan o'r Maniffesto Ar Gyfer Ein Dyfodol yma.
Cefnogwch y Maniffesto Ar Gyfer Ein Dyfodol
Llofnodwch ein deiseb i ddangos eich cefnogaeth i'r Maniffesto yma
Yn ogystal ag addo eich cefnogaeth, gallwch chi hefyd ysgrifennu at eich AS: