Allech chi fod yn un o'n gwirfoddolwyr?
Mae etholiadau i rolau ar bwyllgorau’n un o'r ffyrdd y mae myfyrwyr yn dylanwadu, ac yn craffu ar ein gwaith ymgyrchu ar y cyd. Yng Nghynhadledd UCM Cymru eleni bydd etholiad ar gyfer aelodau o Bwyllgor Llywio UCM Cymru.
Adeiladu a thyfu ein democratiaeth – Pwyllgorau Gweithdrefnau a Llywio
Mae'r rolau hyn ar bwyllgorau’n ymwneud â sicrhau bod myfyrwyr yn rhan weithredol o wneud penderfyniadau yn UCM.
Mae ein pwyllgorau democratiaeth yn arwain ein syniadau ar gyfer modelau newydd o ddemocratiaeth a sut rydym yn gweithredu'r rhain yn UCM.
Maen nhw'n goruchwylio ein cynhadledd a'n prosesau ar gyfer creu syniadau gan fyfyrwyr ac undebau myfyrwyr.
Maent yn sicrhau bod ein democratiaeth yn cael ei chynnal yn effeithlon ac yn esblygu'n gyson, gan ymgorffori'r meddylfryd diweddaraf ar ddemocratiaeth gyfranogol, cyfiawnder adferol a gofal ar y cyd.
Bob blwyddyn rydym yn ethol aelodau o'r pwyllgorau hyn ar draws y pedair gwlad ac yn ein digwyddiadau Cenedlaethol a Rhyddhad.
Cael eich Ethol
Yn gyntaf, mae angen i chi enwebu eich hun. Cyn belled â'ch bod yn fyfyriwr neu'n swyddog sabothol a'ch bod mewn Undeb sy'n perthyn i ag UCM (sy’n cynnwys dros 95% o'r holl Undebau Myfyrwyr) yna gallwch gynnig eich hun.
Gofynnir i chi ddarparu manylion amdanoch chi'ch hun a datganiad byr fel ymgeisydd.
Gallwch gyflwyno eich enwebiad yma
Yn ail, darllenwch Reolau’r Etholiad sy'n llywodraethu'r etholiadau hyn.
Ail-agor Enwebiadau (RON)
Mae Ail-Agor Enwebiadau neu 'RON' yn fecanwaith democrataidd sy’n caniatáu i bleidleiswyr ddewis peidio ag ethol unrhyw un o'r ymgeiswyr yn yr etholiad.
Os bydd RON yn ennill yr etholiad, yna bydd yr enwebiadau yn ail-agor a bydd hyn yn rhoi cyfle i fwy o bobl sefyll ar gyfer y rôl.
Er mwyn rhedeg ymgyrch Ail-agor Enwebiadau (RON), rhaid i chi wneud hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein erbyn y dyddiad cau. Bydd dyddiadau cau yn cael eu cyhoeddi ar yr agenda.
Herio Enwebiadau
Anfonwch e-bost at [email protected] i herio enwebiadau. Bydd dyddiadau cau yn cael eu cyhoeddi ar yr agenda.
Enwebiadau yn Cau
Pwyllgor Llywio Cymru: Diwrnod cyntaf Cynhadledd UCM Cymru