Mae cynrychiolwyr wedi bwrw eu pleidleisiau ac mae’r canlyniadau i mewn yn dilyn Cynhadledd UCM Cymru 2023.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer rolau gwirfoddol, yn ogystal â chanlyniadau'r pleidleisio ar bolisïau a gwelliannau a drafodwyd yn y Gynhadledd.
// Canlyniadau etholiad Pwyllgor Llywio UCM Cymru
Mae aelodau’r Pwyllgor Llywio’n goruchwylio Cynhadledd UCM Cymru, ynghyd â phrosesau ar gyfer cynhyrchu syniadau gan fyfyrwyr ac undebau myfyrwyr.
Yn dilyn pleidleisio gan gynrychiolwyr yng Nghynhadledd UCM Cymru, roedd yr ymgeiswyr canlynol yn llwyddiannus.
Etholwyd i Bwyllgor Llywio UCM Cymru:
Redhwan Al-amri
Alex Meers
Jonathan Davies
// Pasiwyd pob un o’r Polisïau a Gwelliannau
Cafodd tri chynnig polisi eu trafod yng Nghynhadledd Cymru.
Yn dilyn pleidleisio gan gynrychiolwyr, pasiwyd y tri phrif gynnig polisi, ynghyd â phob un o’r gwelliannau i'r cynigion hynny.
Gallwch ddod o hyd i'r holl bolisïau a gwelliannau yma.
Os hoffech weld y taflenni cyfrif ar gyfer unrhyw un o'r etholiadau, anfonwch e-bost at [email protected].