Mae'n bleser gan y Dirprwy Swyddog Canlyniadau (DSC) gyhoeddi'r ymgeiswyr ar gyfer rôl Llywydd UCM Cymru.
Bydd pleidleisio’n agor ar-lein dydd Llun 11 Mawrth am 12pm ac yn cau ddydd Iau 14 Mawrth am 12pm.
Mae pleidleisio’n agored i’r cynrychiolwyr UCM hynny sydd wedi cofrestru i fynychu Cynhadledd UCM Cymru 2024.
Mae disgwyl y byddwn yn cyhoeddi’r ymgeisydd buddugol ddydd Gwener 15 Mawrth.
Cynhelir Cynhadledd UCM Cymru ddydd Mawrth 19 a dydd Mercher 20 Mawrth 2024.
Yr ymgeiswyr yw:
Ymgeiswyr
Deio Owen
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Nominated by the following students / sabbatical officers at member unions:
- Charlotte Clark, Cardiff and Vale College SU
- Amy Anglesea, Wrexham Glyndwr Students' Union
- Elain Gwynedd, Aberystwyth University Students' Union
- Fatima Leah Lopes, Gower College Swansea Students' Union
- Jason Scott, Grwp Llandrillo-Menai Student Union
- Natalie Roe, Royal Welsh College of Music and Drama SU
- Jamal Abdilahi, University of South Wales Students' Union
Helo bawb, Deio dwi a dwi’n rhedeg i fod yn Lywydd nesaf UCMC. Dwi’n wreiddiol o Benrhyn Llŷn yn y Gogledd ac bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel swyddog sabothol yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Mae gen i brofiad o fod yn Lywydd Undeb Myfyrwyr mewn coleg Addysg Bellach, Is-lywydd mewn Undeb addysg uwch ac yn ymddiriedolwr o’r Urdd sydd â cynllun prentisiaethau arbennig. Rwyf yn teimlo’n gryf am gynrychiolaeth myfyrwyr ac mae angen gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael chwarae teg yn y byd sydd ohoni.
Darllenwch Faniffesto Deio yma.
Cyfryngau cymdeithasol
Ail-Agor Enwebiadau
Os ydych chi am bleidleisio, ond nad ydych am bleidleisio i unrhyw ymgeiswyr eraill ar gyfer y rôl hon, yna gallwch fynegi eich awydd i ail-agor y broses enwebu. Os nad oes ymgeisydd yn cael ei ethol i rôl, ond yn hytrach fod Ail-Agor Enwebiadau (RON) yn ennill, yna bydd cyfle o’r newydd i ymgeiswyr gael eu henwebu ac i’r etholiad dan sylw gael ei ail-gynnal. Rhaid i’r ymgyrchu dros RON fod yn atebol ac mae ymgyrchoedd RON yn destun y rheolau etholiadol hyn. Dim ond y rhai sydd wedi cofrestru i gynnal ymgyrch RON gaiff wneud hynny. Er mwyn cofrestru i gynnal ymgyrch Ail-agor Enwebiadau (RON) rhaid i chi wneud hyn trwy e-bostio [email protected] heb fod yn hwyrach na 24 cyn i’r pleidleisio agor.