Darpariaeth Gymraeg a Dwyieithog UCM

Pa Undebau Myfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cynnig?  

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor

Beth yw'r broblem a sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr?  

Nid yw deunydd ymgyrchu UCM a deunydd perthnasol arall ar gyfer Undebau Myfyrwyr Cymru bob amser yn cael ei ddarparu'n ddwyieithog nac yn gwbl ddwyieithog. Mae swyddogion myfyrwyr yng Nghymru yn ei chael hi'n anodd gweithredu ymgyrchoedd a gynhelir gan UCM, neu maent yn methu eu rhedeg o gwbl, oherwydd nad yw deunyddiau'r corff cenedlaethol bob amser yn ddwyieithog. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i Undebau a myfyrwyr yng Nghymru gymryd rhan mewn ymgyrchoedd a digwyddiadau Cenedlaethol. Credwn fod mwy y gellir ei wneud i ymgorffori’r Gymraeg yn barhaus yng ngweithgarwch UCM a sicrhau bod arfer gorau yn cael ei gynnal.

Pa newidiadau yr hoffem eu gweld mewn cymdeithas i newid hyn?  

UCM i gydnabod statws swyddogol a chyfartal i’r Gymraeg, a bod y Gymraeg a dwyieithrwydd yn nodwedd annatod o fywyd Cymru. Bod cymdeithas yn hybu ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth, a’r iaith Gymraeg.

  • Bod yr holl ddeunyddiau a gynhyrchir gan UCM at ddibenion ymgyrchu o fewn UMau Cymru ar gael yn ddwyieithog.
  • Bydd y polisi yn nodi'r hyn y bydd UCM yn ei wneud i wella ei ddarpariaeth ddwyieithog ac yn diffinio'r hyn y gall myfyrwyr ac UMau ei ddisgwyl o ran dwyieithrwydd.
  • Bod strwythurau llywodraethiant corfforaethol UCM, gan gynnwys UCM y DU, yn ystyried sut y gallant sicrhau gwell darpariaeth ddwyieithog, a'r adnoddau a'r cynllunio sydd eu hangen i gyflawni hynny.
  • Bod UCM yn sefydlu fforwm o swyddogion Cymraeg eu hiaith mewn UMau i gynorthwyo â’r gwaith hwn a chefnogi a thrafod unrhyw faterion ymgyrchu dros y Gymraeg sy’n berthnasol i Gymru

Asesiad o Effaith  

Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr AB / Prentisiaid?    

Mae gan bob Coleg AB yng Nghymru fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith; mae siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn fwy tebygol o ddarllen deunyddiau sydd ar gael yn Gymraeg ac yn disgwyl bod y ddarpariaeth hon ar gael iddynt. Gyda'r diwygiadau addysg ôl-16 mae angen i ni feddwl am AU, AB a phrentisiaid fel un.

Sut mae'n effeithio ar Fyfyrwyr Rhyngwladol, Myfyrwyr Ôl-raddedig, Myfyrwyr Rhan-Amser a Myfyrwyr Hŷn? 

Mae’r polisi hwn yn effeithio ar bob myfyriwr Ôl-raddedig, Rhan-amser a Hŷn sy’n siarad Cymraeg, ac mae’n dangos i fyfyrwyr rhyngwladol o wledydd amlieithog bod UCM yn parchu dwyieithrwydd.

Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr croenddu, anabl, LHDT+, traws a menywod?  

Bydd yn effeithio ar bob myfyriwr croenddu*, anabl, LHDT+, traws a menywod sy’n siarad Cymraeg.

A yw hyn yn berthnasol ar draws y DU neu yn benodol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon?  

A yw'r ymateb sydd ei angen yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r DU? 

Mae'n berthnasol i UCM Cymru, ac i holl ymgyrchoedd a deunyddiau UCM y DU sy'n ymwneud â Chymru.

 

Gwelliant 1

UCM i ymchwilio i ddarparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg i aelodau nad oes ganddynt y capasiti yn fewnol.