Cymraeg
Ymgeiswyr ar gyfer Pwyllgor Llywio UCM Cymru
Nida Ambreen, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Rwyf wedi bod yn Swyddog Sabbothol yn rôl yr IL Addysg yn Undeb Bangor a byddaf yn cymryd drosodd y flwyddyn nesaf fel Llywydd. Mae UCM yn gyffredinol wedi bod o ddiddordeb i mi trwy gydol fy rôl a byddwn wrth fy modd yn gweithio gydag UCM mewn mwy o gapasiti. Rwyf wedi ymrwymo i ymhelaethu ar leisiau myfyrwyr, meithrin cynwysoldeb, a sbarduno newid cadarnhaol o fewn ein prifysgolion a’n cymuned myfyrwyr. Gydag ymroddiad i gydweithio, tryloywder, ac eiriolaeth, fy nod yw cynrychioli a mynd i’r afael ag anghenion a phryderon amrywiol myfyrwyr ledled Cymru.
Nodie Caple-Faye, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Rwy'n fyfyriwr gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yng Nghaerdydd; graddiais o Abertawe yn y Gyfraith ac Astudiaethau Americanaidd a chyn hynny mynychais goleg AB.
Fi oedd y swyddog LHDTCRhA+ yng Nghaerdydd. Rwyf wedi mynychu nifer o ddadleuon mewn UMau ac yn UCM. Rwy'n gwybod sut y gall geirio'n anghywir danseilio cynigion; rwyf wedi gweld hyn yn digwydd sawl gwaith. Mae gen i'r sgil a'r profiad i helpu â mireinio cynigion o'r fath o fewn UCM Cymru. Rwy'n angerddol am wleidyddiaeth myfyrwyr ac eisiau tyfu fy mhrofiad. Rwyf am sicrhau bod gan bob myfyriwr, boed mewn AB, yn brentisiaid neu’n fyfyrwyr AU, bolisi ar y bwrdd i’w drafod yn UCM Cymru.
Jiaan Li, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Fel unigolyn ymroddedig a brwdfrydig, rwy’n dod â chyfoeth o brofiad ac angerdd am gydweithio i Bwyllgor Llywio UCM Cymru. Mae fy ymrwymiad i feithrin mentrau cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, ynghyd â'm hanes profedig o arwain, yn fy ngwneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl hon. Rwy’n awyddus i gyfrannu fy sgiliau a’m safbwyntiau i ysgogi newid cadarnhaol ac eirioli dros anghenion amrywiol myfyrwyr ledled Cymru. Mae fy ethol i’n sicrhau eiriolwr cryf ac arweinydd rhagweithiol ar gyfer buddiannau ein cymuned.
Nyah Lowe, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Yn anffodus rydw i’n dod i ddiwedd 2 flynedd wych fel llywydd Undeb Bangor; byddwn wrth fy modd yn parhau i gefnogi mudiad y myfyrwyr a byddai hyn yn caniatáu i mi wneud hynny.
Rwyf wedi cael profiad o gyfieithu sgyrsiau a geiriad a all fy helpu i gynrychioli'n gywir eich barn a'ch mewnwelediad i bolisi.
Ymrwymaf i gynrychioli eich barn a sicrhau bod polisïau yn adlewyrchu’r diben a fwriadwyd yn gywir ac nad ydynt yn cael eu newid nes ei bod yn amhosibl eu hadnabod.
Dru Sutherland, Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant
Fy enw i yw Dru Sutherland; ar hyn o bryd rwy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn dilyn BA mewn Datblygiad Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth Fyd-eang. Rwyf wedi ymrwymo’n ddwfn i gynrychiolaeth myfyrwyr ac eiriolaeth, gan wasanaethu fel cynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr ar gampws Llambed ac fel cynrychiolydd UCM Cymru. Rwy’n awyddus i ddod â’m hymroddiad a’m profiad i Bwyllgor Llywio UCM Cymru er mwyn cynyddu lleisiau myfyrwyr a sbarduno newid cadarnhaol. Diolch i chi am fy ystyried ar gyfer y rôl bwysig hon.
Bayanda Vundamina, Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Hiya, Bayanda ydw i, ac rwy'n llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Rwy'n mwynhau gwneud gwaith polisi yn fawr a byddwn wrth fy modd yn defnyddio fy sgiliau a'm gwybodaeth er budd cynadleddau'r dyfodol, yn enwedig gyda'r diwygiadau.
English
Candidates for NUS Wales Steering Committee
Nida Ambreen, Undeb Bangor, Bangor University Students' Union
I have been a Sabb as VP Education at Undeb Bangor and will be taking over next year as President. NUS overall has become an interest throughout my role and would love to work with NUS in more capacity. I am committed to amplifying student voices, fostering inclusivity, and driving positive change within our universities and student community. With a dedication to collaboration, transparency, and advocacy, I aim to represent and address the diverse needs and concerns of students across Wales.
Nodie Caple-Faye, Cardiff University Students' Union
I am masters International Relations student at Cardiff,a Swansea graduate in Law & American studies and I attended FE college.
I was the LGBTQIA+ officer in Cardiff. I have been at multiple SU and NUS debates. I know how motions worded incorrectly can be derailed I've seen it happen multiple times. I have the skill and experience to help refine such motions within NUS Cymru. I am passionate about student politics and want to grow my experience. I want to make sure all students whether FE,apprentices or HE have policy on the table to discuss in NUS Cymru.
Jiaan Li, Cardiff University Students' Union
As a dedicated and driven individual, I bring a wealth of experience and a passion for collaboration to the NUS Wales Steering Committee. My commitment to fostering inclusive and student-focused initiatives, coupled with my proven track record of leadership, makes me the ideal candidate for this position. I am eager to contribute my skills and perspectives to drive positive change and advocate for the diverse needs of students across Wales. Electing me ensures a strong advocate and proactive leader for our community's interests.
Nyah Lowe, Undeb Bangor, Bangor University Students' Union
I'm unfortunately at the end of 2 fantastic years as president of Undeb Bangor, I would love to continue supporting the student movement and this allows me to do so.
I have had experience translating conversations and wording that can help me accurately represent your thoughts and insights into policy.
I commit to representing your views and ensuring that policies accurately reflect their intended purpose and are not changed unrecognisably.
Dru Sutherland, Trinity Saint David Students' Union
My name is Dru Sutherland, a current student at the University of Wales Trinity Saint David, pursuing a BA in International Development and Global Politics. I am deeply committed to student representation and advocacy, serving as a Students' Union representative on the Lampeter campus and as an NUS Wales representative. I am eager to bring my dedication and experience to the NUS Wales Steering Committee to amplify student voices and drive positive change. Thank you for considering me for this important role.
Bayanda Vundamina, Aberystwyth University Students' Union
Hiya, Im Bayanda and im the student union president at Undeb Aberystwyth. I really enjoy doing policy work and would love to use my skills and knowledge to benefit future conferences especially with the reforms