Cefndir
Nid yw Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr y Deyrnas Unedig ('NUS UK') yn sefydliad cyhoeddus, ac felly nid yw'n cael ei reoleiddio gan Gomisiynydd y Gymraeg. Fodd bynnag, mae'r mudiad yn cydnabod anghenion ei aelodau Cymreig o ran darpariaeth ddwyieithog ac mae wedi datblygu'r ymagwedd ganlynol at ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae’r ymagwedd hon yn seiliedig ar bolisïau a gyflwynwyd i’r Gynhadledd Genedlaethol a Chynhadledd Cymru. Mae'n amlinellu'r hyn y bydd UCM y DU ac UCM Cymru yn ei wneud i wella eu darpariaeth ddwyieithog ac yn egluro'r hyn y gall aelodau a myfyrwyr ei ddisgwyl.
Mae’n bosibl y caiff yr ymagwedd hon ei hadolygu yn dilyn canlyniad diwygiadau UCM yn ystod Gwanwyn 2024.
Egwyddorion
- Mae UCM y DU / UCM Cymru yn cydnabod statws swyddogol a chyfartal yr iaith Gymraeg ac maent wedi ymrwymo i wella eu darpariaeth ddwyieithog.
- Mae UCM y DU / UCM Cymru yn gwneud pob ymdrech i alluogi eu haelodau i gyflawni eu rhwymedigaethau, creu mannau UCM croesawgar a chynhwysol i aelodau Cymreig, a sicrhau bod holl fyfyrwyr Cymru’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgyrchu.
- Mae UCM y DU / UCM Cymru’n fudiad hyblyg, ac y gall fod angen iddynt gydbwyso'r amcanion hyn â chyfyngiadau o ran adnoddau ac amser er mwyn sicrhau gwerth ac effaith i'w haelodau.
Ymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn agweddau perthnasol ar weithgareddau ein mudiad. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cadw a dathlu’r iaith Gymraeg fel rhan annatod o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru.
Mae’n bosibl y bydd UCM y DU / UCM Cymru weithiau’n ceisio darparu mwy o wasanaethau dwyieithog na’r hyn a amlinellir yn yr ymagwedd hon, yn dibynnu ar gyfyngiadau adnoddau ac amser, er mwyn sicrhau amgylchedd croesawgar i siaradwyr Cymraeg.
Thema
|
Beth fyddwn ni'n ei wneud
|
Gohebiaeth
|
- Os derbynnir gohebiaeth yn Gymraeg, byddwn yn ateb yn Gymraeg, cyn belled ag y bo modd
- Bydd pob gohebiaeth i aelodau yng Nghymru’n dechrau gyda chyfarchiad Cymraeg
- Bydd pob galwad ffôn yn UCM Cymru yn cael ei hateb yn ddwyieithog gan ddechrau gyda'r Gymraeg
- Bydd cylchlythyrau a anfonir yn bennaf at aelodau yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog
- Bydd gan dîm UCM Cymru lofnodion e-bost dwyieithog
|
Gwefan
|
- Galluogi cyfieithiad (aml-ieithog) o wefan UCM Cymru drwy'r teclyn Read Me Aloud.
- Bydd y teclyn hwn yn cael ei hyrwyddo ymhellach.
|
Y Wasg
|
- Bydd datganiadau allweddol i'r wasg yn cael eu cyfieithu a'u rhannu â'r wasg Gymreig
|
Cyfryngau Cymdeithasol
|
- Bydd pob neges ar gyfryngau cymdeithasol a gynhyrchir gan UCM Cymru yn ddwyieithog
|
Hunaniaeth Gorfforaethol
|
- Bydd gan UCM Cymru ei hunaniaeth brand a'i gynllun lliw ei hun
- Bydd gan UCM Cymru logo dwyieithog
|
Cyfarfodydd/Digwyddiadau
|
- Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn digwyddiadau â chynulleidfa lle mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg
- Bydd cyhoeddusrwydd ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yng Nghymru, neu gan UCM Cymru, yn ddwyieithog
- Bydd cofrestru ar gyfer pob digwyddiad a gynhelir yng Nghymru, neu gan UCM Cymru, yn ddwyieithog
- Bydd digwyddiadau ar draws y DU gyfan lle mae aelodau o Gymru yn bresennol yn darparu rhywfaint o gyfathrebiadau dwyieithog cyn y digwyddiad lle bo mod.
|
Deunyddiau ac Adnoddau
|
- Bydd deunyddiau ac adnoddau cyhoeddus a gynhyrchir gan UCM Cymru yn ddwyieithog
- Bydd deunyddiau ac adnoddau a gynhyrchir gan UCM DU y bwriedir eu lledaenu ymhellach gan aelodau yng Nghymru yn ddwyieithog
- Bydd deunyddiau ac adnoddau yn Gymraeg ac yn Saesneg yn cael eu rhyddhau ar yr un diwrnod ac mewn fformat tebyg
- Bydd adnoddau Cymraeg yn cael eu storio yn yr un lle â'r fersiwn Saesneg
|
Arolygon a Ffurflenni
|
- Bydd arolygon a ffurflenni a gynhyrchir gan UCM Cymru yn ddwyieithog
- Bydd arolygon a ffurflenni a gynhyrchir gan UCM y DU ar gyfer cynulleidfa ledled y DU yn ddwyieithog dim ond pan fydd adnoddau'n caniatáu. Nid yw’n bosib i arolygon a gynhyrchir gan ddarparwyr allanol fod yn ddwyieithog.
|
Creu ac adolygu Polisi
|
- Cyflwyno Asesiad Effaith ar gyfer yr Iaith Gymraeg
|
Datblygiad Sefydliadol
|
- Anogir siaradwyr Cymraeg yn UCM Cymru i gynnal busnes yn Gymraeg
- Bydd diweddariadau ynghylch ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn cael eu darparu i staff UCM DU ac UCM Cymru
- Bydd taflen gyfarchion Cymraeg yn cael ei darparu i staff UCM Cymru ac UCM y DU
|
Arall/Cymorth i Aelodau
|
- Bydd UCM Cymru yn ceisio sefydlu fforwm o swyddogion UM Cymraeg u hiaith i gynorthwyo â’r gwaith hwn a chefnogi a thrafod unrhyw faterion ymgyrchu ynghylch y Gymraeg sy’n berthnasol i Gymru.
- Mae UCM Cymru yn croesawu adborth gan aelodau ar eu hanghenion o ran yr iaith Gymraeg er mwyn llywio adolygiad polisi
|
Monitro
|
- Bydd yr ymagweddau a amlinellir yn y polisi hwn yn cael eu gwerthuso'n flynyddol i asesu effeithiolrwydd ac effaith gweithredu'r polisi
|