NUS Cymru welcomes the Welsh Government's announcement to extend the eligibility criteria for the Education Maintenance Allowance (EMA), a move that will support more students from low-income households. This decision comes at a critical time as students continue to face significant financial challenges due to the rising cost of living.
"NUS Cymru welcome the Minister's announcement today. Raising the household income threshold for EMA will enable more than 3500 young people to engage with post-16 learning. That's 3500 young people that we will now see continue with their education and continue to equip themselves for a better future”, said Deio Owen, President of NUS Cymru.
“We have been campaigning for this for quite some time, and we are delighted that the Welsh Government have finally listened to student voices. I look forward to working ever closer with the Minister in the coming months on areas where we can further strengthen the student offer in Wales."
NUS Cymru has long advocated for reforms to the EMA system, emphasising the importance of providing adequate support to all students, regardless of their financial background. The organisation believes that expanding EMA eligibility is a crucial step towards creating a more inclusive and equitable education system in Wales.
"Every student deserves the opportunity to succeed in their studies, and this announcement brings us closer to that goal," added Cai Carter, Student Union President of Gower College, Swansea. "We are committed to working with NUS Cymru and the Welsh Government to ensure that student voices are at the heart of decision-making and that financial support for further education remains a priority."
NUS Cymru encourages students and their families to take advantage of the extended EMA eligibility and to continue advocating for further improvements in student finance and support.
UCM Cymru yn Ymateb i Gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch Ymestyn Cymhwysedd ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Mae UCM Cymru yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), cam a fydd yn golygu cynhaliaeth i fwy o fyfyrwyr o gartrefi incwm isel. Daw’r penderfyniad hwn ar adeg dyngedfennol wrth i fyfyrwyr barhau i wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd costau byw cynyddol.
“Mae UCM Cymru’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog heddiw. Bydd codi’r trothwy incwm teuluol ar gyfer LCA yn galluogi mwy na 3500 o bobl ifanc i ymwneud â dysgu ôl-16. Dyna 3500 o bobl ifanc y byddwn nawr yn eu gweld yn parhau â’u haddysg ac yn dal ati i baratoi eu hunain ar gyfer dyfodol gwell”, meddai Deio Owen, Llywydd UCM Cymru.
“Rydym wedi bod yn ymgyrchu dros hyn ers cryn amser, ac rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru o’r diwedd wedi gwrando ar leisiau myfyrwyr. Edrychaf ymlaen at weithio’n agosach fyth gyda’r Gweinidog dros y misoedd nesaf ar feysydd lle gallwn gryfhau’r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru ymhellach.”
Mae UCM Cymru wedi bod yn dadlau ers tro dros ddiwygio’r system LCA, gan bwysleisio pwysigrwydd darparu cymorth digonol i bob myfyriwr, waeth beth fo’u cefndir ariannol. Mae’r mudiad yn credu bod ehangu cymhwysedd LCA yn gam hollbwysig tuag at greu system addysg fwy cynhwysol a theg yng Nghymru.
“Mae pob myfyriwr yn haeddu’r cyfle i lwyddo yn eu hastudiaethau, ac mae’r cyhoeddiad hwn yn dod â ni’n nes at y nod hwnnw,” ychwanegodd Cai Carter, Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr, Abertawe. "Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag UCM Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn ganolog i’r broses o wneud penderfyniadau a bod cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach yn parhau i fod yn flaenoriaeth."
Mae UCM Cymru yn annog myfyrwyr a'u teuluoedd i fanteisio ar y cymhwyster estynedig i gael LCA ac i barhau i ymgyrchu dros welliannau pellach mewn cyllido a chymorth ariannol i fyfyrwyr