Maniffestos y Pleidiau ar gyfer Etholiad y Senedd 2026

To read this page in English, click here.

Mae’r pleidiau gwleidyddol wedi cyhoeddi eu maniffestos ar gyfer Etholiad y Senedd 2026

Mae'r maniffestos yn cynnwys y pethau y byddai'r pleidiau'n eu gwneud pe baent yn cael eu hethol ar 7fed Mai.

Defnyddiwch declyn Cyfateb Pleidleisiau UCM Cymru i weld pa bleidiau rydych chi'n cytuno â nhw fwyaf.

Edrychwch ar yr hyn y mae'r pleidiau'n ei ddweud am faterion sy'n bwysig i fyfyrwyr a phobl ifanc

 

Cliciwch ar adran isod i weld beth mae'r gwahanol bleidiau'n ei addo ym mhob maes.

Prifysgolion a chyllido
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Creu cynllun benthyciadau myfyrwyr i Gymru’n unig gyda thelerau ad-dalu tecach
    • Cynnal system bresennol Cymru o grantiau cynhaliaeth uwch i fyfyrwyr o gefndiroedd tlotach
    • Ymestyn y rhaglen Ymgyrraedd yn Ehangach i gynyddu mynediad i fyfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol3
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i dorri cyfradd llog ar ddyled myfyrwyr
    • Ad-dalu ffioedd dysgu myfyrwyr meddygol ac addysgu sy'n gweithio yn GIG Cymru neu ysgolion Cymru am bum mlynedd
    • Rhaglen beilot ar gyfer gostyngiad o £1,000 mewn ffioedd dysgu ar gyfer pynciau STEM
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Adolygiad annibynnol o addysg uwch a sut mae'n cael ei hariannu yng Nghymru
    • Diwygio rhaglen Seren i gefnogi myfyrwyr yn well i wneud cais i brifysgolion yng Nghymru
    • Cynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr Cymru fyw, astudio a gweithio yn Ewrop
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Cynnal system bresennol Cymru o grantiau cynhaliaeth uwch i fyfyrwyr o gefndiroedd tlotach
    • Ailgyflwyno grantiau cynhaliaeth i fyfyrwyr o Loegr sy'n astudio ym mhrifysgolion Cymru
    • Cynyddu mynediad at addysg lefel prifysgol
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Cynyddu cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr yng Nghymru
    • Adolygiad annibynnol o gyllido prifysgolion a chymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys llwybr i ostwng ffioedd dysgu yn gynaliadwy
    • Negodi gyda Llywodraeth y DU ar gyfer cynllun i ganslo cyllid myfyrwyr yn rhannol
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Cadw ffioedd dysgu Cymru’r un fath ag y maent yn Lloegr (£9,790 y flwyddyn o 2026/27)
    • Sicrhau bod cynnwys cyrsiau prifysgol yn paratoi graddedigion yn ddigonol ar gyfer y gweithle
    • Cynyddu lleoedd hyfforddi a ariennir ar gyfer meddygon, deintyddion a nyrsys
Colegau, Prentisiaethau a Sgiliau
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Ymestyn Gwarant y Person Ifanc fel bod pob person 14 i 16 oed yn gallu cael mynediad at hyfforddiant galwedigaethol ac academaidd
    • Cyflwyno Gwarant Ailhyfforddi Gydol Oes newydd fel y gall gweithwyr gael mynediad at hyfforddiant drwy gydol eu gyrfa
    • 100,000 o brentisiaethau dros dymor nesaf y Senedd wedi'u targedu at feysydd fel adeiladu ac ynni adnewyddadwy
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • 125,000 o brentisiaethau dros dymor nesaf y Senedd
    • Ehangu prentisiaethau gradd a mynediad at gyrsiau addysg uwch mewn colegau
    • Creu hawliau i bobl ddysgu, uwchsgilio ac ailhyfforddi drwy gydol eu bywydau gwaith
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Hyrwyddo cyflwyno mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol (VCSE) a phrentisiaethau iau
    • Diogelu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysgol ar £40 yr wythnos i bobl 16-18 oed
    • Gwella cyngor a chanllawiau gyrfaoedd i gynyddu ymwybyddiaeth o opsiynau addysg a hyfforddiant ôl-ysgol
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Cynyddu'r cyllido ar gyfer myfyrwyr coleg uwchlaw cyfradd chwyddiant bob blwyddyn
    • Cynnig wedi’i warantu o addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth o fewn tri mis i adael yr ysgol
    • Buddsoddi mewn prentisiaethau o ansawdd uchel ac ehangu prentisiaethau gradd
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Gwella cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg bellach i'w helpu gyda chostau byw
    • Adolygiad annibynnol o addysg bellach a buddsoddiad hirdymor i ehangu argaeledd cyrsiau
    • Buddsoddi mewn hyfforddiant a phrentisiaethau mewn ôl-osod i ddatblygu sgiliau mewn inswleiddio, gosod pympiau gwres ac adeiladu cynaliadwy
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Ymestyn yr addysg dechnegol, cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau sydd ar gael i bobl ifanc
    • Datblygu prentisiaethau gradd mewn nyrsio
    • Creu cynllun prentisiaeth cenedlaethol ar gyfer cefn gwlad Cymru
Myfyrwyr rhyngwladol a mudo
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Osgoi’r ardoll newydd ar ffioedd myfyrwyr rhyngwladol, fel sydd wedi’u cyflwyno yn Lloegr
    • Diogelu statws Cymru fel Gwlad Noddfa
    • Rhoi’r un hawliau sylfaenol yn y gwaith i bob gweithiwr gofal gyda Siarter y Gweithwyr Gofal Mudol
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Diddymu polisi Gwlad Noddfa
    • Gweithio gyda llywodraeth y DU i atal mewnfudo anghyfreithlon
    • Rhoi’r gorau i wario ar faterion heb eu datganoli, gan gynnwys mewnfudo
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Gwrthwynebu cyfyngiadau fisa myfyrwyr ac annog mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i astudio yng Nghymru
    • Strategaeth i gefnogi mudwyr a cheiswyr lloches na allant gael mynediad at arian cyhoeddus
    • Ymladd yn erbyn camwybodaeth a gwybodaeth gamarweiniol am geiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Diogelu ac ehangu rhaglen Gwlad Noddfa Cymru
    • Cryfhau cefnogaeth i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a mudwyr, gan gynnwys mynediad at dai a gofal iechyd
    • Cefnogi rhaglen Taith ac eirioli dros gynllun symudedd ieuenctid gyda'r UE
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Rhoi terfyn ar y cynllun Gwlad Noddfa
    • Newid y gyfraith gynllunio i atal troi gwestai yn hosteli ar gyfer mudwyr
    • Dileu'r holl wariant ar brosiectau cymorth tramor
Costau Byw, Cyflogaeth a'r Economi
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Ymrwymo i beidio â chynyddu cyfraddau treth incwm Cymru
    • Lleihau biliau ynni drwy uwchraddio effeithlonrwydd ynni mewn mwy na 100,000 o gartrefi
    • Sicrhau bod busnesau sy'n derbyn cefnogaeth y llywodraeth yn talu'r Cyflog Byw Go Iawn
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Torri cyfradd sylfaenol treth incwm o 1%
    • Gosod cap o 5% ar gynnydd yn nhreth y cyngor
    • Dileu trethi busnes ar gyfer busnesau bach a chyflwyno cyfnodau di-dreth ar gyfer busnesau manwerthu newydd
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • 20 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed
    • Gweithio i wneud treth y cyngor yn decach
    • Mwy o bwerau treth i Gymru i wneud treth incwm yn decach ac yn fwy blaengar
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Codi treth incwm 1c i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol os na fydd Llywodraeth y DU yn cynyddu cyllid i Gymru
    • 30 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed, 48 wythnos y flwyddyn
    • Torri biliau ynni trwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a gwella masnachu ynni gyda'r UE
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Disodli treth y cyngor â threth gwerth tir i dorri biliau cyfartalog a sicrhau bod perchnogion eiddo cyfoethocach yn talu mwy
    • Gofal plant am ddim i blant rhwng naw mis a phedair oed, heb ei gwneud yn ofynnol i rieni weithio isafswm o oriau
    • Disodli trethi busnes â system sy'n seiliedig ar werth tir fel bod busnesau bach yn talu llai
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Torri cyfradd treth incwm o 1% ar gyfer pob band
    • Dim trethi na thollau newydd wedi’u rheoli gan Gymru
    • Refferenda ar gyfer cynnydd yn y dreth gyngor uwchlaw 4.99%
Y GIG, Iechyd a Llesiant
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Buddsoddi £4 biliwn yng Nghronfa Ysbytai'r Dyfodol
    • Gwarantu apwyntiad gofal sylfaenol o fewn 48 awr ar gyfer anghenion brys
    • Ehangu cymorth iechyd meddwl i sicrhau mynediad ar yr un diwrnod i bawb
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Datgan argyfwng iechyd yng Nghymru
    • Cynyddu gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol bob blwyddyn
    • Sefydlu canolfannau argyfwng iechyd meddwl 24/7 a chynyddu capasiti gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Lleihau rhestrau aros y GIG trwy gyflogi 100 o feddygon teulu newydd, buddsoddi mewn digidol a chreu 10 canolfan lawfeddygol newydd
    • Creu Gweinidog Iechyd y Cyhoedd i roi mwy o bwyslais ar lesiant corfforol a meddyliol
    • Cefnogi cynnig prifysgolion Bangor ac Aberystwyth am Ysgol Ddeintyddiaeth newydd
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • 5,000 o leoliadau gofal nyrsio newydd neu wedi'u hailwampio a hyfforddi mwy o feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd i leihau rhestrau aros
    • Gwarantu mynediad at ddeintydd y GIG i bawb sydd angen gofal brys ac mewn argyfwng
    • Gwella mynediad cynnar at gymorth iechyd meddwl
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Mynd i’r afael â phrinder gweithlu a gwella cyflogau, diogelwch swyddi a datblygiad gyrfa
    • Cynyddu cyllido ar gyfer gwasanaethau meddyg teulu a deintyddol, ynghyd â diwygio cyllido i adlewyrchu anghenion cymunedau
    • Gweithredu Cynllun Iechyd Meddwl Ieuenctid ac ehangu cefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Lansio cynllun gweithredu brys i gynyddu capasiti'r GIG a lleihau amseroedd aros
    • Creu Ysgol Ddeintyddol newydd ym Mangor ar gyfer myfyrwyr ym mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth
    • Ehangu cymorth iechyd meddwl ar ffurf ymyriad cynnar
Tai a Rhentu
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Adeiladu 100,000 o gartrefi newydd dros y deng mlynedd nesaf ac Ehangu Cymorth i Brynu y tu hwnt i gartrefi sydd newydd eu hadeiladu
    • Cyflwyno cynllun gwarantwr i rentwyr er mwyn helpu mwy o bobl i sicrhau eiddo ar rent
    • Ystyried cynllun sgorio ar gyfer asiantaethau gosod tai
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Ehangu'r cynllun Cymorth i Brynu i bawb sy’n prynu am y tro cyntaf
    • Cyflwyno Safon Ansawdd Llety Myfyrwyr ar gyfer neuaddau preswyl
    • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i roi ad-daliad treth o £5,000 i bobl ifanc yn eu swydd gyntaf i'w helpu i gynilo ar gyfer eu cartref cyntaf
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Cysylltu cynnydd rhent blynyddol â thwf cyflogau, chwyddiant neu feincnod arall
    • Gwella amddiffyniadau i denantiaid, gwella ansawdd eiddo a rhoi terfyn ar droi tenantiaid allan heb fai
    • Cyfyngu ar dendro rhent a chyfyngu ar faint o rent sy'n daladwy ymlaen llaw
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Adeiladu 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd
    • Rhaglen uwchraddio frys deng mlynedd i wneud cartrefi'n gynhesach ac yn rhatach i’w cynnal
    • Cynllun trawslywodraethol i roi terfyn ar gysgu ar y stryd a phob math o ddigartrefedd
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Rhewi rhenti am flwyddyn, ac yna rheoli rhenti, i gadw tai yn fforddiadwy
    • Amddiffyniad cryfach yn erbyn lleithder, llwydni ac amodau tai anniogel
    • Darparu 60,000 o gartrefi fforddiadwy dros 10 mlynedd, â'r mwyafrif yn dai cymdeithasol
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Cyfyngu ar Dai Amlfeddiannaeth (HMOs) mewn rhai ardaloedd ac atal HMOs ar gyfer mudwyr
    • Gofyniad am fod wedi byw yng Nghymru am 10 mlynedd i gael mynediad at dai cymdeithasol
    • Disodli'r cynllun Cymorth i Brynu â chymhellion wedi'u targedu
Trafnidiaeth a Theithio
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Cap newydd o £2 ar gyfer tocynnau bws i oedolion, parhau â thocynnau £1 i rai dan 25 oed a thocynnau am ddim i rai dros 60 oed
    • Ystyried gwasanaeth teithio newydd nid-er-elw i ddysgwyr, sy'n eiddo cyhoeddus
    • Creu mwy na 100 o lwybrau bysiau newydd
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Cardiau teithio bws a rheilffordd am ddim i bob person 16-24 oed
    • Teithio ar drên am ddim y tu allan i oriau brig i ddeiliaid tocynnau teithio rhatach
    • Gwrthdroi terfyn cyflymder diofyn 20mya
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Parhau â theithiau bws un-ffordd am £1 a thocynnau dydd £3 i’r rhai rhwng 5 ac 21 oed
    • Ehangu tocynnau tapio-ymlaen, tapio-i-ffwrdd, talu-wrth-fynd a chap ar brisiau dyddiol ar draws bysiau a threnau
    • Datganoli rheilffyrdd a sicrhau i Gymru’r hyn sy'n ddyledus i Gymru yn sgil HS2 a phrosiectau rheilffyrdd eraill sy'n berthnasol i Loegr yn unig
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Ymestyn y cynllun tocynnau bws unfordd am £1 i bobl ifanc, a thocynnau diwrnod am £3 i bawb dan 25 oed
    • Datganoli pwerau dros wasanaethau a seilwaith rheilffyrdd i Gymru
    • Strategaeth teithio egnïol newydd i greu rhwydweithiau beicio a cherdded newydd
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Teithio bws am ddim i bobl dan 22 oed a thocynnau unffordd £1 i bobl 22-59 oed
    • Cynyddu nifer y llwybrau bysiau, llinellau rheilffordd a gorsafoedd ledled Cymru i wella cysylltiadau
    • Dyblu’r gyfran o deithiau a wneir trwy gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Dileu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol a chael gwared ar rannau cyflymder cyfartalog 50mya ar draffyrdd
    • Blaenoriaethu adeiladu a gwella ffyrdd, gan gynnwys ffordd liniaru'r M4, yr A55 a'r A470
    • Cynyddu nifer y cerbydau trên i gynyddu capasiti'r rheilffordd
Hinsawdd, yr Amgylchedd ac Ynni
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Pob cartref sy’n cael ei adeiladu o’r newydd i gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy a phaneli solar fel safon ofynnol
    • Cadw’r gwaharddiad ar ffracio a gwrthwynebu cloddio am danwydd ffosil
    • Diogelu 30% o dir a môr Cymru er lles natur erbyn 2030
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Diweddaru'r Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur sy'n canolbwyntio ar gyflawni sero net erbyn 2040
    • Rhoi’r gorau i ddefnyddio plastigau untro diangen yn raddol
    • Cyflwyno Cynllun Blaendal a Dychwelyd ar gyfer cynwysyddion diodydd plastig a metel
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Gwneud Cymru yn arweinydd byd-eang ym maes ynni llanw’r môr a hydro
    • Gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i wrthdroi'r gwaharddiad ar ffracio
    • Gwahardd gollwng carthion i ddyfrffyrdd a gosod safonau 'baner las' newydd ar gyfer afonydd, nentydd a llynnoedd
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Cadw’r gwaharddiad ar echdynnu tanwydd ffosil gan gynnwys cloddio am lo, drilio am olew a nwy, a ffracio
    • Cadw'r ymrwymiad i ddiwallu 100% o alw trydan Cymru ag ynni adnewyddadwy erbyn 2035
    • Ei gwneud yn ofynnol i bob cartref newydd fodloni safonau carbon isel neu sero net, gan gynnwys gosod paneli solar
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Cael gwared ar dargedau sero net a diddymu swydd weinidogol y Gweinidog dros Newid Hinsawdd
    • Gwahardd ffermydd gwynt a solar newydd ar diroedd Cymru
    • Cyllid aml-flwyddyn gan y llywodraeth ar gyfer clybiau ffermwyr ifanc
Hawliau, Cydraddoldeb a Rhyddhad
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Dileu'r bylchau cyflog rhwng y rhyweddau, ar o ran ethnigrwydd ac anabledd erbyn 2050
    • Gwneud Cymru’n wlad wrth-hiliol erbyn 2030 drwy gynllun gweithredu Cymru Gwrth-hiliol
    • Gwneud Cymru’r lle gorau yn Ewrop i fod yn berson LHDT+ drwy'r cynllun gweithredu LHDT+
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Cefnogi tynnu allan o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR)
    • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru
    • Ei gwneud yn ofynnol bod yna doiledau ac ystafelloedd newid i fenywod yn unig ym mhob adeilad cyhoeddus
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Creu Deddf Hawliau Dynol i Gymru i ddiogelu hawliau menywod, pobl anabl, pobl sy’n destun hiliaeth a phlant
    • Pwyso ar Lywodraeth y DU am waharddiad llawn ar 'therapi trosi’ gan gynnwys pobl draws
    • Gweithio tuag at broses anfeddygol ar gyfer cydnabod rhywedd a chefnogi datblygiad Gwasanaeth Rhywedd Cymru
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Hyrwyddo’r Ddeddf Hawliau Dynol a chynnal ymrwymiad i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
    • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru
    • Amddiffyn hawliau pobl o bob cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, a sicrhau bod hawliau pobl draws yn cael eu diogelu
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Amddiffyn aelodaeth y DU o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
    • Sefydlu gwasanaethau rhywedd pwrpasol i bobl dan 17 oed gael mynediad at gefnogaeth a therapi
    • Cynllun Hawliau Pobl Anabl Hirdymor a phenodi Gweinidog dros Bobl Anabl
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Rhoi terfyn ar swyddi Amrywioldeb, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn y sector cyhoeddus
    • Gwneud polisi llywodraeth yn seiliedig ar ryw biolegol a chael gwared ar 'ideoleg rhywedd' o ysgolion a'r GIG
    • Rhoi terfyn ar ddefnyddio hunan-ddiffinio rhywedd mewn chwaraeon menywod ac ar gyfer mynediad i wardiau un rhyw
Cymdeithas, Democratiaeth a Phobl Ifanc
    • Llafur Cymru

      Darllenwch Maniffesto Llafur Cymru
    • Mwy o bwerau gwleidyddol i Gymru a dadlau dros i Gymru gael 'cyfran deg' o gyllid gan Lywodraeth y DU
    • Rhoi cyfle i bob person ifanc ddysgu am eu hawliau yn y gwaith
    • Cynulliad dinasyddion i drafod dyfodol gofal cymdeithasol a gwella cydlyniant cymunedol
    • Ceidwadwyr Cymru

      Darllenwch Maniffesto Ceidwadwyr Cymru
    • Diystyru refferendwm annibyniaeth neu unrhyw refferendwm ar gyfansoddiad Cymru
    • Gwrthdroi’r cynnydd yn nifer Aelodau’r Senedd o 96 i 60
    • Gosod cap o 12 ar nifer Gweinidogion Cymru a thorri cyflog gweinidogion 10%
    • Plaid Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Cymru
    • Caniatáu i'r Senedd alw refferendwm ar annibyniaeth i Gymru
    • Newid y system bleidleisio i’r bleidlais sengl drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau'r Senedd
    • Cryfhau hyfforddiant llythrennedd gwleidyddol a chyfryngau mewn ysgolion
    • Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

      Darllenwch Maniffesto Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
    • Gwrthwynebu annibyniaeth i gadw Cymru yn rhan o'r DU
    • Datganoli mwy o bwerau i Gymru gan gynnwys rheilffyrdd, plismona, cyfiawnder, darlledu ac Ystâd y Goron
    • Newid y system bleidleisio i’r bleidlais sengl drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau'r Senedd
    • Plaid Werdd Cymru

      Darllenwch Maniffesto Plaid Werdd Cymru
    • Cyflwyno cofrestru pleidleiswyr awtomatig ledled Cymru
    • Cefnogi symudiad graddol tuag at wythnos waith bedwar diwrnod
    • Cyfleoedd dysgu a diwylliannol yn y Gymraeg am ddim a hygyrch i bobl ifanc 8-25 oed
    • Reform UK

      Darllenwch Maniffesto Reform UK
    • Dileu hawl dinasyddion tramor cymwys i bleidleisio yn etholiadau Cymru
    • Ei gwneud yn ofynnol i gyfathrebiadau etholiadol a ariennir gan y llywodraeth fod yn Saesneg a Chymraeg yn unig
    • Rhoi terfyn ar gyllido cyhoeddus ar gyfer elusennau sy'n 'gweithredu fel sefydliadau ymgyrchu gwleidyddol'