Pa Undebau Myfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cynnig?
UCM Cymru, Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe
Beth yw'r broblem a sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr?
Rydym wedi derbyn dau gyflwyniad polisi ar gostau byw, un yn fwy cyffredinol ac un yn canolbwyntio ar gostau bwyd cynyddol i fyfyrwyr.
Mae myfyrwyr ledled Cymru yn ei chael yn anodd ymdopi â’r Argyfwng Costau Byw. Mae’n frwydr gyson i allu fforddio ein cartrefi, bwyd a theithio i'n dosbarthiadau. Mae myfyrwyr wedi teimlo effaith methiant llywodraeth San Steffan hyd yn oed er gwaethaf datganoli, boed hynny’n ffioedd dysgu uwch, trothwyon ad-dalu wedi’u rhewi, neu ddiffyg cyllido i helpu i gael mynediad at ein haddysg. Mae dysgwyr yn gynyddol dueddol o roi'r gorau iddi oherwydd na allant fforddio hanfodion bob-dydd, hyd yn oed gyda chymorth ariannol a swyddi rhan-amser. Mae angen gweithredu ar y cyd, yn unigol ac fel mudiad pedair gwlad, i dargedu llywodraethau er mwyn iddynt ddarparu pecyn cymorth i fyfyrwyr a chymdeithas sy'n gwerthfawrogi addysg.
Mae costau bwyd cynyddol ar y campws ac oddi arno yn achosi anfantais arbennig; mae myfyrwyr yn gorfod gweithio ochr-yn-ochr â'u hastudiaethau ac yn dal yn methu â fforddio maeth sylfaenol. Mae darpariaethau ar y campws yn debygol o fod yn fwy maethlon, ond yn dueddol o fod yn rhy ddrud, yn enwedig i’r rhai nad ydynt yn derbyn cyllido ychwanegol.
Pa newidiadau yr hoffem eu gweld mewn cymdeithas i newid hyn?
Yn erbyn cefndir o gynnydd nas gwelwyd o’r blaen mewn gweithredu diwydiannol, ac Etholiad Cyffredinol 2024 ar y gorwel, mae yna symudiad ac ewyllys newydd ar draws cymdeithas i adeiladu lleoedd gwell i ni fyw a dysgu ynddynt. Rhaid i fyfyrwyr ddod at ei gilydd fel llais cyfunol unedig, gan anfon neges bod angen gwell arnom i allu goroesi. Polisi Llywodraeth y DU yw Tlodi Myfyrwyr; ni all hyn barhau. Mae angen gweithredu ar lefel sefydliad/Llywodraeth i gyflawni'r pethau sylfaenol. Mae angen bwyd ar y bwrdd. Mae angen rhewi a gostyngiad mewn rhenti. Mae angen ffordd o gyrraedd ein dosbarthau nad yw'n golygu ein bod ar ein colled. Mae angen mwy o arian arnom i oroesi a ffynnu.
Mae angen i sefydliadau AB ac AU fod yn rhagweithiol wrth ddarparu opsiynau bwyd tecach ar y campws heb achosi niwed i ffermwyr a chynhyrchwyr. Dylai sefydliadau hwyluso gofod hygyrch cymunedol er mwyn mynd i'r afael ag arwahanrwydd yn y gymuned myfyrwyr oherwydd costau bwyd.
Dylai UCMC ddilyn cyfeiriad ac arweiniad yr aelodaeth, gan siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth Cymru / (San Steffan ar faterion wedi’u neilltuo). Mae angen gweithredu uniongyrchol i fynd i'r afael â chostau sy'n taro myfyrwyr/prentisiaid - boed hynny'n dlodi bwyd, costau teithio, rhent/unrhyw filiau eraill. Rydym wedi gweld llwyddiant; mae angen i ni ddal ati i ganolbwyntio er mwyn parhau i adeiladu ar hyn. Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i ni drefnu o fewn ein hundebau myfyrwyr i ddenu cefnogwyr gweithredol i'n hymgyrchoedd / ysgogi myfyrwyr ar lawr gwlad i deimlo'n llawn cymhelliant i weithredu pryd a ble y gallant. Mae hyn yn edrych yn wahanol ar draws gwahanol gampysau; rhaid i ni sefyll yn unedig y tu ôl i'r nod o frwydro dros newid cadarnhaol i fyfyrwyr.
Asesiad o Effaith
Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr AB / Prentisiaid?
Mae myfyrwyr AB a phrentisiaid yn dioddef yn sgil cyfundrefn o galedi a llymder sy'n eu gadael ar ôl. Mae llai o gymorth ariannol ar gael iddynt na myfyrwyr AU a rhaid iddynt godi eu llais i sicrhau ei fod yn cael ei glywed er mwyn mynd i'r afael â materion a deimlir ar lawr gwlad. Nid yw’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) mewn AB wedi cynyddu ers ei gyflwyno, a disgwylir i brentisiaid allu byw ar £4.81 yr awr.
Mae'r Argyfwng Costau Byw yn effeithio ar bob UM a'u haelodau, waeth pa mor fach neu fawr ydyn nhw. Mae'n rhaid i ni weithio gydag UM bach/arbenigol i sicrhau bod swyddogion/staff yn cael cymorth i drefnu ar y campws. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod y cymorth y mae myfyrwyr yn ei gael yn berthnasol ac wedi'i dargedu, megis mynd i'r afael â chostau offer neu ddeunyddiau.
Mae costau bwyd yn effeithio'n benodol ar AB a phrentisiaid gan fod llawer yn gorfod gweithio'n rhan-amser oherwydd diffyg prisiau fforddiadwy. Mae myfyrwyr hefyd eisiau opsiynau mwy maethlon i fod yn rhatach fel bod myfyrwyr AB a phrentisiaid yn iachach!
Sut mae'n effeithio ar Fyfyrwyr Rhyngwladol, Myfyrwyr Ôl-raddedig, Myfyrwyr Rhan-Amser a Myfyrwyr Hŷn?
Mae’r Argyfwng CB yn parhau i daro pob myfyriwr a phrentis; mae'n rhaid i ni sicrhau bod ymateb y llywodraeth yn hygyrch i fyfyrwyr rhyngwladol mewn system sy'n camfanteisio arnynt gan fachu eu harian. Rhaid i sefyllfa lle mae rhieni'n gorfod dewis rhwng gwerslyfrau a bwydo eu teulu newid nawr. Nid yw cynhaliaeth ar gyfer Ôl-raddedigion wedi cynyddu cymaint ag ar gyfer Israddedigion (1.8% o'i gymharu â 9.4%) - ni allan adael Ôl-raddedigion ar ôl.
Gall Myfyrwyr Rhyngwladol wynebu rhwystrau o ran iaith a diwylliant tra byddant yn y DU, ac efallai y bydd angen cymorth cyfathrebu ychwanegol arnynt, yn enwedig ynghylch yr Argyfwng CB a chynnydd mewn prisiau.
Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr croenddu, anabl, LHDT+, traws a menywod?
Mae angen i fyfyrwyr a phrentisiaid sy'n perthyn i grwpiau rhyddhad deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u grymuso i gyd-greu ein gofynion a'n tactegau ar gyfer ein hymgyrchoedd. Mae'r Argyfwng CB yn dwysáu strwythurau pŵer sy'n rhoi myfyrwyr mewn sefyllfaoedd byw peryglus ac yn methu â theimlo'n hyderus â phwy ydyn nhw.
A yw hyn yn berthnasol ar draws y DU neu yn benodol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon?
A yw'r ymateb sydd ei angen yn wahanol mewn gwahanol rannau o'r DU?
Mae angen atebion gwahanol i'r Argyfwng CB ar bob gwlad yn y DU, oherwydd y gwahaniaethau mewn materion datganoledig / wedi’u neilltuo. Yr un yw'r nod yn y bôn, sef cael y cymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr, pryd a sut y mae ei angen arnynt. Dylem sicrhau bod cymdeithas yn cael ei hadeiladu i weld addysg fel rhywbeth i’w warchod ar draws yr holl wledydd.
Gwelliant 1
UCM Cymru i sefyll yn gadarn gyda sefydliadau eraill sy'n ymgyrchu o gwmpas costau byw.
UCM i fabwysiadu safiad i ymgyrchu dros;
- cyflogau tecach
- budd-dal plant a darpariaethau lles eraill y wladwriaeth
- gwrthwynebiad i gynnydd mewn ffioedd dysgu
- ailgyflwyno credyd treth plant
- cynnydd mewn benthyciadau a grantiau cynhaliaeth
Gwelliant 2
Dylai prifysgolion recriwtio’n foesegol a recriwtio i gapasiti lleol yn unig o ran eu preswylfeydd, tai lleol a chostau byw lleol (gan ystyried costau bwyd lleol).
Gwelliant 3
UCM Cymru i lobïo'r llywodraeth i gynyddu cyllido Lwfans Cynhaliaeth Addysg a'i wneud yn fwy hygyrch
Gwelliant 4
Dylid darparu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol o ran bwyd, lloches ac angenrheidiau sylfaenol, yn ogystal â'u hanghenion penodol (fel anghenion teuluol) ac i'w derbyn beidio â bod yn seiliedig ar incwm cyn symud yma i gyflawni hyn.