Beth Mae Myfyrwyr yn ei Feddwl - E-bost at yr holl fyfyrwyr

E-bost at yr holl fyfyrwyr

Llinell bwnc: Dywedwch wrthym am fywyd myfyrwyr yng Nghymru, a gallwch chi ennill £500

Helo [enw],

Rydym yn gweithio gydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr i ddeall profiadau myfyrwyr ledled Cymru yn 2026.

Trwy'r arolwg cenedlaethol Beth Mae Myfyrwyr yn ei Feddwl, mae UCM Cymru yn casglu adborth ar bopeth o gostau byw a thai i fenthyciadau myfyrwyr, trafnidiaeth ac iechyd meddwl. Bydd y canlyniadau’n helpu i greu darlun cenedlaethol o fywyd myfyrwyr ac yn ffurfio sail i ymgyrchoedd i wella profiad myfyrwyr.

Mae'r arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau, a bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael eu cynnwys mewn raffl â siawns i ennill gwobr o £500.

Mae eich profiad yn bwysig Po fwyaf o fyfyrwyr sy'n cymryd rhan, y cliriaf fydd y darlun a gawn o sut beth yw bywyd myfyrwyr ar hyn o bryd. Manteisiwch ar y cyfle i ddweud eich dweud erbyn dydd Sul, 1af Tachwedd.

Botwm: Mynegwch eich barn: Beth mae Myfyrwyr yn ei Feddwl

 

Testun ar gyfer y cylchlythyr 

Cymerwch ran yn yr arolwg cenedlaethol Beth Mae Myfyrwyr yn ei Feddwl gan UCM Cymru i helpu â chreu darlun cenedlaethol o fywyd myfyrwyr yn 2026 a chael cyfle i ennill £500. Cymerwch ran erbyn dydd Sul, 1af Tachwedd.

Botwm: Rhannwch eich barn: Beth mae Myfyrwyr yn ei Feddwl