Creu cydbwysedd cyfartal o leisiau myfyrwyr ledled Cymru gyfan yn y gynhadledd.
Pa Undebau Myfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o'r cynnig?
Undeb Myfyrwyr Glyndŵr Wrecsam
Beth yw'r broblem a sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr?
Ar hyn o bryd nid yw lleisiau myfyrwyr ar draws Gogledd Cymru yn cael eu clywed mor effeithiol â lleisiau De Cymru, oherwydd nifer y cynrychiolwyr sy'n bresennol yng nghynadleddau UCM. Mae hyn yn golygu bod y cynrychiolwyr hynny o Dde Cymru yn arwain y mwyafrif o'r polisïau y pleidleisir arnynt a'r trafodaethau a gynhelir. Mae’r myfyrwyr hynny o sefydliadau yng Ngogledd Cymru’n teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli a bod pwysau i siarad ar ran lleiafrif bach yn y digwyddiad, sy’n golygu efallai nad yw myfyrwyr o’r Gogledd yn gweld yr un budd yn sgil pasio cynigion yn yr un ffordd ag y byddai myfyrwyr o sefydliadau’r De.
Pa newidiadau yr hoffem eu gweld mewn cymdeithas i newid hyn?
Y cynnig yw y dylai hawl cynrychiolwyr yng Nghymru fod yn seiliedig ar gyfrifiad tecach.
Yn holl ddigwyddiadau UCM, hoffai sefydliadau yng Ngogledd Cymru weld cynrychiolaeth deg o fynychwyr o bob sefydliad ledled Cymru. Teimlwn nad maint sefydliad, a nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru, ddylai fod yr unig ffactor a ddefnyddir wrth ystyried faint o gynrychiolwyr sydd gan sefydliad yr hawl i’w hanfon i gynhadledd. Er y gall fod llai o fyfyrwyr i siarad drostynt, nid yw'n gwneud y lleisiau hyn yn llai gwerthfawr ac ni ddylai newid yr effaith y gall y lleisiau hyn ei chael. Nid yw mwy o leisiau bob amser yn golygu mewnbwn mwy gwerthfawr, ac os oes gan bob UM gyfle cyfartal i siarad a phleidleisio, bydd y canlyniad yn ymddangos yn fwy teg a chyflawn.
Byddai hyn o fudd enfawr i sefydliadau llai, yn enwedig yng Ngogledd Cymru.
Asesiad o Effaith
Nodiadau’r Pwyllgor Llywio
Mae’r pwyllgor llywio wedi gwneud rhai nodiadau isod i sicrhau bod cynrychiolwyr yn deall beth mae’r polisi hwn yn ei olygu a beth fydd yn digwydd pe bai’r polisi’n cael ei basio.
- Mae UCM yn cael ei lywodraethu gan ei Erthyglau Cydgymdeithasu a'i Reolau. Mae nifer y cynrychiolwyr y mae gan sefydliadau’r hawl i’w hanfon i gynhadledd i'w weld yn Rheolau UCM. Mae’r pwyllgor llywio wedi darparu taflen ffeithiau yn cynnwys y rheolau perthnasol.
- Mae Rheolau UCM yn eiddo i'r Gynhadledd Genedlaethol. Er mwyn i'r polisi hwn ddod i rym byddai angen newid y rheolau yn y Gynhadledd Genedlaethol.
- Mae goblygiadau o ran rheolau ehangach UCM ynghylch nifer y cynrychiolwyr yn ymwneud â’r Gynhadledd Genedlaethol. Trafodir y rhain isod:
Felly byddai pasio'r polisi hwn yn rhoi cyfarwyddyd i'r pwyllgor a’r swyddog llywio gyflwyno cynnig i newid y rheolau i Gynhadledd Genedlaethol yn y dyfodol.
Nodir hefyd fod grŵp o bolisïau wedi'u cynnig i Gynhadledd Genedlaethol UCM ynghylch tryloywder a democratiaeth UCM. Yn gynwysedig yn y rhain mae cynnig sy’n ymwneud â chynrychiolaeth yn rhanbarthau Lloegr ac un arall yn cynnig cyngor trefnu yn seiliedig ar y gwledydd datganoledig a’r rhanbarthau. Bydd hyn wedi cael ei drafod cyn Cynhadledd Cymru yn y Gynhadledd Genedlaethol. Mae'r pwyllgor llywio o'r farn y byddai adroddiad yn ôl ar y drafodaeth a chanlyniad hyn yn berthnasol i ddadl ar gynrychiolaeth ar gyfer Gogledd Cymru.
Yn ogystal, mae'r Pwyllgor Gweithdrefnau Democrataidd yn mynd i lansio gwaith ymgynghori ar gynrychiolaeth ddemocrataidd a newidiadau posibl i reolau i'w cyflwyno i'r gynhadledd y flwyddyn nesaf. Awgrymir bod unrhyw ddeilliannau o'r cynnig polisi hwn yn cael eu cynnwys yn y broses honno fel elfen o unrhyw newidiadau yn y rheolau.
Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr AB / Prentisiaid?
Cyfeiriwch at y daflen ffeithiau am niferoedd myfyrwyr sydd wedi'i rhannu yn ôl niferoedd AB ac AU. Sylwch fod gan Gymdeithas Genedlaethol y Prentisiaid ar hyn o bryd nifer gosod o gynrychiolwyr y gallant eu hanfon i Gynhadledd UCM Cymru a Chynhadledd Genedlaethol UCM.
Gan y cynigwyr:
Mae'r cynnig hefyd yn berthnasol i Undebau Myfyrwyr AB. Felly, byddai gosod nifer cyfartal o gynrychiolwyr ar gyfer sefydliadau AB ac AU yn gyffredinol, yn dangos tegwch a chydraddoldeb ar draws y sector addysg ôl-16.
Sut mae'n effeithio ar Fyfyrwyr Rhyngwladol, Myfyrwyr Ôl-raddedig, Myfyrwyr Rhan-Amser a Myfyrwyr Hŷn?
Mae rhywfaint o ddata ar niferoedd rhan-amser yn y daflen ffeithiau. Mae'n anodd gwneud asesiad heb fewnwelediad pellach. Mae’r pwyllgor llywio’n awgrymu y dylai unrhyw drafodaeth neu weithdy sicrhau bod y grwpiau hyn o fyfyrwyr yn cael cyfleoedd penodol i siarad.
Gan y cynigwyr: Mae niferoedd myfyrwyr Rhyngwladol, Ôl-raddedig, Rhan-amser a Hŷn ym mhob sefydliad yn amrywio, gyda rhai yn fwy nag eraill. Felly, os yw niferoedd y cynrychiolwyr yn y gynhadledd wedi’u gosod, mae mwy o gyfle i fyfyrwyr o’r ddemograffeg hyn gael eu cynrychioli gan mai dim ond 2 gynrychiolydd a ganiateir ar ran rhai UM.
Sut mae'n effeithio ar fyfyrwyr croenddu, anabl, LHDT+, traws a menywod?
Mae’r pwyllgor llywio’n awgrymu bod lleisiau myfyrwyr croenddu, anabl, LHDT+, traws a menywod yn cael cyfleoedd penodol mewn unrhyw drafodaeth neu weithdy i gael mewnwelediad pellach ar yr effeithiau.
Mae’r cynigwyr wedi dweud: Ar gyfer y gynhadledd Ryddhad, mae UCM wedi gosod nifer y cynrychiolwyr ar gyfer pob Undeb, ac felly mae'n gyfartal ar draws y wlad. Felly, pe bai nifer y cynrychiolwyr wedi’i osod ar gyfer pob Undeb ar gyfer cynadleddau Cenedlaethol, byddai hyn yn caniatáu i lais pob myfyriwr gael ei glywed, o ystod eang o ddemograffeg myfyrwyr.
A yw hyn yn berthnasol ar draws y DU neu yn benodol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon?
Mae'r cynnig yn canolbwyntio'n benodol ar gynrychiolaeth myfyrwyr yng Nghymru. Mae'r cynigwyr wedi nodi wrth lenwi’r ffurflen y manteision i gynrychiolwyr Gogledd Cymru ac mae hyn wedi'i gynnwys yng nghorff y cynnig uchod. Dylai cynrychiolwyr ystyried, wrth drafod y cynnig, y goblygiadau canlynol ledled y DU.
- Defnyddir hawl cynrychiolwyr yn seiliedig ar niferoedd myfyrwyr ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol UCM, Cynhadledd UCM yr Alban a Chynhadledd UCM-UMI yn ogystal â Chynhadledd UCM Cymru.
- Byddai unrhyw newid o ran nifer y cynrychiolwyr sy’n gallu mynychu Cynhadledd Cymru yn effeithio ar aelodau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru yn unig. Byddai hyn yn golygu y byddai gan gynhadledd Cymru fodel cynrychiolaeth wahanol i'r cynadleddau uchod. Ni fyddai'r cynnig yn newid hawliau cynrychiolwyr yng Nghynhadledd UCM yr Alban neu UCM-UMI.
- Byddai newid yn nifer y cynrychiolwyr y gellir eu hanfon i’r Gynhadledd Genedlaethol â goblygiadau ehangach i aelodau mewn rhannau eraill o'r DU. Byddai angen trafodaeth bellach, caniatâd a chadarnhad gan yr aelodau hynny ac yn y Gynhadledd Genedlaethol.
Gwelliant 1
Ei gwneud yn ofynnol i gynigwyr polisi ystyried yr effaith y bydd eu polisi arfaethedig yn ei chael ar Sefydliadau yn y Gogledd a’r De drwy asesiad effaith.
Gwelliant 2
I fyfyrwyr Rhan-amser gael eu hystyried yn gyfartal â myfyrwyr Llawn-amser o ran nifer y cynrychiolwyr sydd gan sefydliadau’r hawl i’w hanfon i Gynhadledd.
Gwelliant 3
I Bwyllgor Llywio UCM Cymru ystyried argymhellion ynghylch newidiadau i egwyddorion ar gyfer faint o gynrychiolwyr y gall sefydliadau eu hanfoni Gynadleddau UCM Cymru yn y dyfodol. Mae'r argymhellion hyn yn cynnwys cyflwyno isafswm ac uchafswm penodol uwch ar gyfer cynrychiolwyr o bob sefydliad er mwyn sicrhau cynrychiolaeth decach i bob Undeb. I'r nifer o gynrychiolwyr a ganiateir ar gyfer pob sefydliad rhwng yr isafswm a’r uchafswm hwn gael ei gyfrifo'n gymesur â nifer y myfyrwyr yn y sefydliadau hynny.
Gwelliant 4
Gwahodd cynrychiolydd o bob Undeb Myfyrwyr yng Nghymru i ymgysylltu a chymryd rhan yn yr adolygiad democratiaeth sydd i'w gynnal gan UCM Cymru.