A Month in the Trenches: Fighting for Students Across Wales (and Beyond!)

A Month in the Trenches: Fighting for Students Across Wales (and Beyond!)

Hey everyone,

What a whirlwind month it's been. If you've been wondering what I've been up to, grab a paned, because I've got a lot to share. From the heart of Welsh student life to the halls of power, it's been a non-stop journey.

Connecting with the Student Heartbeat

First things first, nothing beats connecting with you, the students! We kicked off the month with a fantastic Welsh SUs gathering in Aberystwyth. It was a big, energising reunion, catching up with officers from across Wales. We talked about everything: what we're doing, the political landscape, and most importantly, how to amplify student voices within our institutions.

Then, I hit the road, visiting Bangor, CAVC, USW, Wrexham, Cardiff, and Coleg Cambria, which was eye-opening. In CAVC and Coleg Cambria, I heard firsthand about the real struggles students face with transport and the benefits of Education Maintenance Allowance. The passion for change was palpable, and it fuelled my determination to make a difference.

And let's be honest, as someone who was a Sabb last year, meeting with current officers is one of my favourite parts of this job! We’ve delved into crucial issues like student mental health, campus safety, and the ever pressing HE funding model. Right now, we’re gathering more data to truly understand the pressures you're facing, and these conversations are the bedrock of my work. They ensure your experiences are front and centre when I meet with ministers and officials.

 

Inside the Machine: NUS and Beyond

But our challenges don’t stop at borders, and neither does our work. I've been travelling across the UK, meeting with fellow officers in other nations to share insights, tackle common issues, and strengthen our collective voice. It's been inspiring to see what other officers in different nations are doing, and together, we're building a stronger, collective voice for students. A lot of what we do in Wales revolves around the Senedd, but issues such as Visa rules for international students and limits to the maintenance loans are reserved to the UK Government in Westminster. By working together across the UK, we make sure that all students are represented in the most effective ways. We are also able to learn from each other about how other nations in the UK operate, from free tuition fees in Scotland to cheaper transport in Northern Ireland, we’re able to learn from them, but also share wins such as the increased EMA we have here in Wales.

 

Facing the Funding Crisis Head-On

This month has been particularly intense, with concerning news emerging from the HE sector. We've been in regular contact with Vikki Howells MS, Minister for Further and Higher Education, focusing on the impact of the funding crisis on student mental health and well-being. We're standing in solidarity with staff and unions like UCU and RCN, because we all know that HE funding needs a fundamental overhaul.

 

Battling Long-Standing Issues with Welsh Government

  • Housing: Let's be real, student housing is a perennial problem. It's been the subject of countless jokes, but the reality is far from funny. We're still fighting for better conditions and accountability from landlords, universities, and the government. I've raised this with Vikki Howells and will continue to push for change with Jayne Bryant.
  • Transport: Wales' transport system is challenging. While the £1 bus fare for under-21s is a step in the right direction, we need more. Rural students in particular are still facing significant hurdles. I'll be raising these concerns at the upcoming learner transport summit.
  • EMA: The extension of EMA eligibility is a win we’re proud of, but the amount offered needs to reflect the current cost of living. We're pushing for an increase to provide much-needed financial support.
  • Apprenticeships: Meeting with Jack Sargeant, Minister for Culture, Skills and Social Partnerships, we discussed the need for better access to in-person learning, a higher apprentice minimum wage, and more apprenticeship opportunities.
  • Medr: It's been great to sit on the board of Medr, the new funding and regulatory body for tertiary education in Wales. We're working hard to ensure the learner's voice is heard and that we're building a better education system for everyone.

 

Amplifying Student Voices

  • Radio and TV interviews: I've been hitting the airwaves to get the message out about the issues facing students. It's crucial that people understand what it's really like to be a student in 2025.
  • Working with Partners: Collaborating with organisations like Colegau Cymru and Universities Wales helps us better understand the challenges institutions face and ensures they hear the student perspective.
  • Engaging with Politicians: We're meeting with politicians across the Senedd and Westminster to ensure they understand the context of their decisions and fight for a better future for learners.
  • UCU Rally: It was a privilege to stand alongside Shav Taj, Jo Grady, and other union leaders to voice our frustration about the lack of sustainable funding for universities and the threat of job cuts. We must protect jobs, courses, and opportunities for students.
  • USI Gaelic Language Conference: It was a great honour to share the Welsh bilingual experience in Galway.
  • Y Farchnad: This was a great opportunity to connect with politicians in the Senedd. We were able to talk directly to lots of politicians about what we need to see changed, developed and protected.

 

What's Next?

This month has been a reminder of the power of student voice and the importance of collective action. We're making progress, but there's still a long way to go.

What do you think? What issues are most important to you? Get in touch and tell us your stories! And keep an eye out for more updates – you'll be hearing a lot more from me!


Mis yn y Ffosydd: Ymladd dros Fyfyrwyr ar draws Cymru (a Thu Hwnt!) 

Helo bawb, 

Mae wedi bod yn fis eithriadol o brysur. Os ydych chi wedi bod yn pendroni beth rydw i wedi bod yn ei wneud, bachwch baned, oherwydd mae gen i gryn lawer i'w rannu. O galon bywyd myfyrwyr Cymreig i goridorau pŵer, mae wedi bod yn daith ddi-stop. 

 

Cysylltu â Churiad Calon y Myfyrwyr 

I ddechrau, does dim byd yn well na chysylltu â chi, y myfyrwyr! Fe ddechreuon ni'r mis gydag UMau Cymru’n ymgynnull yn Ffaberystwyth. Roedd yn aduniad mawr, llawn egni, ac yn gyfle i ddal i fyny â swyddogion o bob rhan o Gymru. Buom yn siarad am bopeth: yr hyn yr ydym yn ei wneud, y dirwedd wleidyddol, ac yn bwysicaf oll, sut i ymhelaethu ar leisiau myfyrwyr o fewn ein sefydliadau. 

Yna, fe es i ar daith, gan ymweld â Bangor, Coleg Caerdydd a’r Fro, Prifysgol De Cymru, Wrecsam, Caerdydd, a Choleg Cambria, a oedd yn agoriad llygad. Yn CCaF a Choleg Cambria, clywais yn uniongyrchol am yr anawsterau gwirioneddol y mae myfyrwyr yn eu hwynebu o ran teithio a manteision y Lwfans Cynhaliaeth Addysg. Roedd yr angerdd am newid yn amlwg, gan danio fy mhenderfyniad i wneud gwahaniaeth. 

A bod yn onest, fel rhywun a oedd yn swyddog sabothol y llynedd, mae cyfarfod â swyddogion cyfredol yn un o fy hoff elfennau o'r swydd hon! Rydym wedi ymchwilio i faterion hollbwysig fel iechyd meddwl myfyrwyr, diogelwch ar y campws, a'r model cyllido AU sy'n parhau i fod yn hollbwysig. Ar hyn o bryd, rydym yn casglu mwy o ddata i ddeall yn well y pwysau yr ydych yn ei wynebu, a'r sgyrsiau hyn yw sylfaen fy ngwaith. Maent yn sicrhau bod eich profiadau’n cael blaenoriaeth pan fyddaf yn cyfarfod â gweinidogion a swyddogion. 

Y tu mewn i'r Peiriant: UCM a Thu Hwnt 

Nid cyfarfodydd allanol oedd popeth, serch hynny. Mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld beth mae swyddogion eraill yn y gwahanol wledydd yn ei wneud, a gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu llais cryfach, cyfunol ar ran myfyrwyr. Mae llawer o’r hyn a wnawn yng Nghymru’n ymwneud â Senedd Cymru, ond mae materion fel rheolau Fisa ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a chyfyngiadau ar fenthyciadau cynhaliaeth wedi’u neilltuo i Lywodraeth y DU yn San Steffan. Trwy gydweithio ar draws y DU, rydym yn gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn cael ei gynrychioli yn y ffyrdd mwyaf effeithiol. Rydym hefyd yn gallu dysgu oddi wrth ein gilydd o ran sut y mae gwledydd eraill yn y DU yn gweithredu. O ffioedd dysgu am ddim yn yr Alban i gludiant rhatach yng Ngogledd Iwerddon, rydym yn gallu dysgu oddi wrthynt; ond gallwn hefyd rannu buddugoliaethau megis y cynnydd yn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg sydd gennym yma yng Nghymru.  

Wynebu'r Argyfwng Cyllido yn Feiddgar 

Mae'r mis hwn wedi bod yn arbennig o ddwys, gyda newyddion o'r sector AU yn peri cryn bryder. Rydym wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â Vikki Howells ASC, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, gan ganolbwyntio ar effaith yr argyfwng cyllido ar iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr. Rydym yn sefyll mewn undod â staff ac undebau fel UCU ac RCN, oherwydd rydyn ni i gyd yn gwybod bod angen ailwampio cyllido AU yn sylfaenol. 

Brwydro yn erbyn Anawsterau Hirsefydlog 

  • Tai: Gadewch i ni fod yn realistig, mae tai myfyrwyr yn broblem barhaus. Mae wedi bod yn destun jôcs di-ri, ond mae'r realiti ymhell o fod yn ddoniol. Rydym yn dal i frwydro am well amodau ac atebolrwydd gan landlordiaid, prifysgolion, a'r llywodraeth. Rwyf wedi codi hyn gyda Vikki Howells, a byddaf yn parhau i wthio am newid gyda Jayne Bryant. 
  • Teithio: Mae system drafnidiaeth Cymru yn heriol. Er bod tocyn bws am £1 i rai dan 21 oed yn gam i'r cyfeiriad cywir, mae angen mwy. Mae myfyrwyr mewn ardaloedd gwledig yn arbennig yn dal i wynebu rhwystrau sylweddol. Byddaf yn codi’r pryderon hyn yn yr uwchgynhadledd i drafod teithio dysgwyr sydd ar ddod. 
  • LCA: Mae ymestyn cymhwysedd LCA yn fuddugoliaeth, ond mae angen i'r swm a gynigir adlewyrchu costau byw presennol. Rydym yn pwyso am gynnydd i ddarparu cymorth ariannol y mae mawr ei angen. 
  • Prentisiaethau: Wrth gyfarfod â Jack Sargeant, y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaethau Cymdeithasol, buom yn trafod yr angen am well mynediad at ddysgu wyneb-yn-wyneb, isafswm cyflog uwch i brentisiaid, a mwy o gyfleoedd ar gyfer prentisiaethau. 
  • Medr: Mae wedi bod yn wych eistedd ar fwrdd Medr, y corff cyllido a rheoleiddio newydd ar gyfer addysg drydyddol yng Nghymru. Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod llais y dysgwr yn cael ei glywed a'n bod yn adeiladu system addysg well i bawb. 

 

Ymhelaethu ar Leisiau Myfyrwyr: 

  • Cyfweliadau radio a theledu: Rydw i wedi bod yn taro'r tonfeddi i ledaenu'r neges am yr anawsterau sy'n wynebu myfyrwyr. Mae'n hanfodol bod pobl yn deall sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yn 2025 mewn gwirionedd. 
  • Gweithio gyda Phartneriaid: Mae cydweithio â sefydliadau fel Colegau Cymru a Phrifysgolion Cymru yn ein helpu i ddeall yn well yr heriau y mae sefydliadau yn eu hwynebu ac yn sicrhau eu bod yn clywed safbwynt myfyrwyr. 
  • Ymgysylltu â Gwleidyddion: Rydym yn cyfarfod â gwleidyddion yn Senedd Cymru a San Steffan i sicrhau eu bod yn deall cyd-destun eu penderfyniadau ac yn ymladd am ddyfodol gwell i ddysgwyr. 
  • Rali UCU: Roedd yn fraint cael sefyll ochr-yn-ochr â Shav Taj, Jo Grady, ac arweinwyr undebau eraill i leisio ein rhwystredigaeth am y diffyg cyllido cynaliadwy ar gyfer prifysgolion a’r bygythiad o golli swyddi. Rhaid i ni ddiogelu swyddi, cyrsiau, a chyfleoedd i fyfyrwyr. 
  • Cynhadledd yr Iaith Aeleg UMI: Roedd yn anrhydedd mawr cael rhannu’r profiad dwyieithog Cymraeg yn Galway. 
  • Y Farchnad: Roedd hwn yn gyfle gwych i gysylltu â gwleidyddion yn y Senedd. Roeddem yn gallu siarad yn uniongyrchol â llawer o wleidyddion am yr hyn y mae angen i ni ei weld yn cael ei newid, ei ddatblygu a'i warchod. 

 

Beth Sydd Nesaf? 

Mae’r mis hwn wedi fy atgoffa ynghylch pŵer llais myfyrwyr a phwysigrwydd gweithredu ar y cyd. Rydym yn gwneud cynnydd, ond mae llawer o ffordd i fynd eto. 

Beth yw eich barn chi? Pa faterion sydd bwysicaf i chi? Cysylltwch a rhannwch eich straeon gyda ni! A chadwch lygad am fwy o ddiweddariadau - byddwch chi'n clywed llawer mwy gen i! 

Our Partners

Enable Recite Me accessibility tools