Mae mudiad y myfyrwyr yn arwain y ffordd wrth fynnu dyfodol gwell a mwy disglair. Ond os ydym am i wleidyddion a phleidiau gwleidyddol gymryd sylw, mae angen i ni ategu ein geiriau â chamau gweithredu wrth y blwch pleidleisio.
Dim ond os byddwn yn troi i fyny mewn etholiadau y bydd ein llais yn cael ei glywed. Myfyrwyr yw 10% o'r boblogaeth sydd â’r hawl i bleidleisio - mae gennym ni'r pŵer i leisio ein barn.
Fel arfer dim ond bob 5 mlynedd y mae Etholiadau Cyffredinol yn digwydd, felly os na ddefnyddiwch eich pleidlais, mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi aros hanner degawd arall i ddweud eich dweud.
Llofnodwch y ddeiseb a’i gwneud yn glir na ellir anwybyddu lleisiau myfyrwyr; gwnewch addewid i Droi i Fyny a phleidleisio yn 2024. To view this petition in English click here.