To read this page in English, click here.

Cynhelir Etholiad y Senedd ddydd Iau, 7fed Mai 2026. Rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad presennol i allu pleidleisio yn etholiad y Senedd.

Cofrestru i bleidleisio

 

Beth yw etholiad Senedd?

Senedd Cymru yw ein senedd genedlaethol. Fel arfer, mae etholiadau i'r Senedd yn digwydd bob 5 mlynedd.

Mae Aelodau'r Senedd (ASC) yn cael eu hethol mewn etholiad ar gyfer y Senedd. Yn etholiad 2026, bydd 96 o ASC yn cael eu hethol i gynrychioli 16 etholaeth - sy'n golygu y bydd 6 aelod ar gyfer pob etholaeth.

Y blaid (neu'r grŵp o bleidiau) sydd â'r gefnogaeth fwyaf sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru, ac arweinydd y llywodraeth fydd Prif Weinidog Cymru.

Mae gan y Senedd bwerau eang i greu deddfau a gwneud penderfyniadau ynghylch meysydd pwysig o fywyd yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Sut mae'r GIG yn gweithio
  • Cyllido ar gyfer addysg, ysgolion a cholegau
  • Ffioedd dysgu a lefelau cymorth i fyfyrwyr Cymru
  • Mentrau trafnidiaeth
  • Tai
  • Yr amgylchedd

 

Sut ydw i'n cofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd?

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio ar wefan Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am gofrestru gan ddefnyddio ffurflen bapur ar y wefan hon.

Gofynnir i chi ddarparu eich enw, eich dyddiad geni, eich cenedligrwydd, eich cyfeiriad(au) a'ch Rhif Yswiriant Gwladol.

Os nad ydych yn gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol, gallwch gael cymorth i ddod o hyd iddo yma: https://www.gov.uk/lost-national-insurance-number  

dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd yw hanner-nos, dydd Llun 20fed Ebrill 2026.

 

Pa mor hen sydd rhaid i mi fod i bleidleisio yn etholiad y Senedd?

Mae angen i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad i allu pleidleisio mewn etholiad Senedd Cymru.

Felly, os cawsoch chi eich geni ar neu cyn 7fed Mai 2010, rydych chi'n gymwys i bleidleisio yn etholiad y Senedd.

Gallwch chi gofrestru i bleidleisio yng Nghymru o 14 oed a throsodd.

 

Rwyf yn fyfyriwr rhyngwladol. A gaf i bleidleisio?

Cewch, mae myfyrwyr rhyngwladol sy'n byw yng Nghymru yn gallu pleidleisio yn etholiadau'r Senedd, cyn belled â'u bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio yng Nghymru, gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio erbyn y dyddiad cau, sef hanner-nos, ddydd Llun 20fed Ebrill.

 

A allaf gofrestru i bleidleisio mewn dau gyfeiriad?

Gallwch, caniateir i fyfyrwyr gofrestru i bleidleisio mewn mwy nag un cyfeiriad. Fodd bynnag, dim ond mewn un cyfeiriad y gallwch chi bleidleisio mewn etholiad ar gyfer y Senedd.

Gwyddom fod myfyrwyr yn aml yn rhannu eu hamser rhwng eu cyfeiriad yn ystod y tymor a'u cyfeiriad cartref, felly mae'n bwysig eich bod wedi cofrestru yn y ddau.

 

Oes angen i mi gofrestru i bleidleisio eto os byddaf yn newid cyfeiriad?

Oes, mae angen i chi gofrestru i bleidleisio bob tro y byddwch yn newid cyfeiriad.

 

A fydd angen ID â Llun arnaf?

Na fydd, ni fydd angen i chi ddangos dogfen adnabod â llun er mwyn pleidleisio yn etholiad y Senedd.

 

Beth os ydw oddi cartref ar 7fed Mai?

Os na allwch chi fod yn bresennol i bleidleisio ar 7fed Mai, gallwch wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais trwy ddirprwy.

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais bost yw 5pm dydd Mawrth 21ain Ebrill 2026.

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy ddirprwy yw 5pm dydd Mawrth 28ain Ebrill 2026.

 

Mwy y gallwch chi ei wneud i baratoi ar gyfer Troi i Fyny

 

 

Partneriaid ymgyrchu

Rydyn ni eisiau i Trowch i Fyny fod yr ymgyrch cofrestru myfyrwyr a phleidleiswyr ifanc fwyaf erioed, felly rydyn ni'n partneru â sefydliadau i helpu â lledaenu'r gair!

 

 

 

Generation Rent

Democracy Classroom

 

Elusen UCM

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn partneru ag UCM y DU ar gyfer yr ymgyrch Trowch i Fyny, e-bostiwch [email protected].